Geraint Roberts
Mae cyrff dau aelod o’r Awyrlu gafodd eu lladd mewn damwain hofrennydd yn Afghanistan wedi cael eu cludo yn ôl i’r DU.

Bu farw’r Awyr Lefftenant Geraint “Roly” Roberts, 44, o’r Rhyl a’r Awyr Lefftenant Alan Scott, 32, o Lundain, ar ôl i’w hofrennydd Puma Mk 2 fynd i drafferthion wrth geisio glanio ym mhencadlys canolfan hyfforddiant Nato yn Kabul ar 11 Hydref.

Fe gyrhaeddodd awyren yn safle’r Awyrlu yn Brize Norton am 1.30 prynhawn ma.

Fe fydd eu cyrff yn cael eu cludo i Ysbyty John Radcliffe yn Rhydychen.

Roedd y ddau ymhlith pump o bobl gafodd eu lladd yn y ddamwain, a chafodd pump o bobl eraill eu hanafu.

Roedd Geraint Roberts yn briod ac yn dad i ddau o blant. Fe ymunodd  a’r Awyrlu yn 1988 gan wasanaethu yn Bosnia, Ynysoedd y Falkland, Irac ac Afghanistan.