Brechiad ffliw
Bydd plant 5 a 6 oed yn cael cynnig brechiad ffliw tymhorol gan wasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru eleni.

Mae plant 2 a 3 oed wedi bod yn rhan o’r cynllun ers dwy flynedd, gyda phlant 4 oed yn cael cynnig y brechiad y llynedd. Ond eleni fe fydd plant 2 – 6 oed yn cael cynnig y brechlyn er mwyn eu diogelu rhag ffliw sy’n gallu arwain at effeithiau difrifol.

Bydd plant 2 – 3 oed yn cael cynnig y brechlyn yn eu meddygfa leol, a phlant 4 – 6 yn cael y brechiad gan weithwyr iechyd proffesiynol yn yr ysgol wedi caniatâd gan y rhieni.

Mae swyddogion iechyd yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu, am fod y ffliw yn gallu gadael effeithiau difrifol ar blant, ac mae’r brechiad ar ei fwyaf effeithiol cyn i’r salwch daro.

‘Cymhlethdodau difrifol’

“Dylai rhieni ddeall fod ffliw weithiau’n gallu arwain at gymhlethdodau difrifol, yn enwedig i blant ifanc a’r rhai â phroblemau iechyd hirdymor, fel asthma,” meddai Dr Zed Sibanda, Paediatregydd Ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

“Mae plant mor ifanc â hyn yn wynebu risg arbennig o ddatblygu cymhlethdodau difrifol oherwydd ffliw am nifer o resymau. Un o’r rhesymau hynny yw nad yw eu systemau imiwnedd wedi datblygu’n llawn, sy’n golygu na allant drechu’r ffliw cystal â phlant hŷn ac oedolion,” ychwanegodd.

 Pobl fregus

Mae firws y ffliw yn cael ei wasgaru drwy’r awyr pan mae person sydd wedi’i heintio’n pesychu neu’n tisian.

Mae’r rhaglen imiwneiddio yn ceisio sicrhau bod y bobol fwyaf bregus yn cael cynnig y ffliw am ddim er mwyn osgoi cymhlethdodau difrifol.

Fe fydd plant 2 – 6 oed yn ymuno felly â’r grwpiau eraill sy’n cael cynnig y brechiad am ddim, gan gynnwys:

  • pobol 65 oed a throsodd
  • pobol â chyflyrau iechyd hirdymor
  • menywod beichiog
  • gweithwyr iechyd