Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi galw am adolygiad o’r gwasanaeth darlledu cyhoeddus yng Nghymru – a hynny ar frys.
Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon – John Whittingdale – fe awgrymodd Carwyn Jones fod angen adolygiad o bwrpas cyhoeddus y BBC yng Nghymru.
Fe ddywedodd yn y llythyr bod angen adolygu dibenion cyhoeddus y BBC yng Nghymru, yn arbennig mewn perthynas â’i wasanaeth i gynulleidfaoedd Cymru a’i bortread o Gymru i’r byd.
Fe ddywedodd y dylid cynnwys S4C yn yr adolygiad hefyd, er bod S4C yn sefydliad gwbl annibynnol oddi wrth y BBC.
“Ond o ystyried y perthynas cyllidol a’r cyfleusterau rhyngddynt, dylai’r holl ddarlledu yng Nghymru, boed ym mha bynnag iaith, gael ei gynnwys yn yr adolygiad,”meddai.
“Nid yw hyn yn awgrymu y dylid gwanhau annibyniaeth S4C mewn unrhyw ffordd,” ychwanegodd y Prif Weinidog.
“Ffurfio seiliau’r Siarter”
Mae’n nodi y dylai’r adolygiad ganolbwyntio ar y newidiadau sy’n deillio o ddatganoli a’r newid yn y DU.
“Ers datganoli, rydym wedi gweld newid sylweddol yn y ffordd y mae cenhedloedd a rhanbarthau’r DU yn gweithredu – ac o ganlyniad mae anghenion y bobol sy’n byw yno wedi newid hefyd.
“Eto i gyd, nid oes unrhyw werthusiad nac asesiad ar wasanaeth darlledwyr cyhoeddus wedi bod i’r newidiadau hyn,” ychwanegodd.
Fe ddywedodd fod angen creu’r adolygiad er mwyn hyrwyddo a chynnal yr iaith a’r diwylliant Cymraeg gan “ffurfio seiliau i gytundeb newydd y Siarter.”
Byddai hyn yn fodd i sicrhau cynrychiolaeth o bobol a bywyd Cymru gan fynd i’r afael â methiannau’r farchnad ar hyn o bryd mewn perthynas â Gwasanaeth Darlledu Cyhoeddus yng Nghymru.
“Bydd yn fodd i greu diffiniad clir o’r hyn sydd ei angen ar Gymru a’r hyn y mae gan y BBC ddyletswydd i’w gyflawni yn ystod y ddegawd nesaf – a hynny ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru a’r portread o Gymru i weddill y byd. “