Julian Ruck
Mae’r awdur Julian Ruck mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro gan gerbyd yng Nghydweli nos Sadwrn.

Dywed Heddlu Dyfed Powys bod y colofnydd dadleuol a sylwebydd gwleidyddol wedi bod yn cerdded yn Stryd Newydd, Cydweli pan gafodd ei daro nos Sadwrn. Fe fethodd y cerbyd ag aros ar ôl y ddamwain.

Mae’r heddlu’n apelio ar y gyrrwr i gysylltu â nhw.

Maen nhw’n credu y byddai’r gyrrwr wedi bod yn ymwybodol o’r gwrthdrawiad ac y gallai fod wedi stopio cyn gyrru i ffwrdd.

Cafodd Julian Ruck anafiadau difrifol i’w ben a’i goes yn y digwyddiad ac mae’n cael triniaeth yn Ysbyty Treforys.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.