Julian Ruck
Mae adroddiadau yn honni fod colofnydd papur newydd, dadleuol, wedi bod mewn damwain ffordd neithiwr, lle y methodd gyrrwr y car â stopio.

Mae gwefan y South Wales Evening Post yn dweud fod eu colofnydd a’u sylwebydd gwleidyddol, Julian Ruck, wedi gorfod derbyn triniaeth yn Ysbyty Treforys yn dilyn y digwyddiad yn Stryd Newydd, Cydweli tua 7.30yh nos Sadwrn.

Mae Julian Ruck wedi tynnu nyth cacwn yn ei ben sawl gwaith trwy ddadlau yn ei ysgrifau i’r papur ac mewn mannau eraill na ddylai’r diwylliant Cymraeg dderbyn cymaint o nawdd gan y llywodraeth, a bod angen i gyhoeddwyr llyfrau, yn benodol, redeg eu gweisg fel busnesau yn hytrach na dibynnu ar arian o’r pwrs cyhoeddus.

Mae gwefan y South Wales Evening Post yn dweud i Julian Ruck dreulio neithiwr yn yr ysbyty.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i wrthdrawiad yng Nghydweli, a bod yr achos yn cael ei drin fel achos o daro a ffoi.

Nid yw Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw’r dioddefwr, ond maen nhw wedi dweud bod y dyn yn 59 mlwydd oed ac yn byw’n lleol. Dydi ei anafiadau ddim yn cael eu hystyried fel rhai difrifol sy’n bygwth ei fywyd, meddai datganiad yr heddlu wedyn.