Mae undebwr llafur a gafodd ei herwgipio a’i arteithio yn Colombia, De America, ar ôl iddo herio’r cwmnïau olew yno, yn dod i Gymru i adrodd ei stori yn Nheml Heddwch Caerdydd heno.

Mae Gilberto Torres yn dod ag achos yn erbyn y cwmni British Petroleum (BP) wedi iddo gael ei gladdu mewn twll llawn pryfed am 42 diwrnod a’i arteithio. Mae bellach wedi’i alltudio o’r wlad.

Mae ei achs yn un unigryw, oherwydd ei fod wedi gallu dianc. Mae’n dweud nad yw’r mwyafrif o bobol eraill sy’n diodde’ mor lwcus â hynny, ac mae’n diolch am y gefnogaeth y cafodd gan bobol ledled y byd.

Ond, mae ei achos yn un o filoedd o rai tebyg yn Colombia a’i ranbarth, lle mae dros 12,000 o bobl wedi cael eu lladd neu wedi diflannu ers i BP ddechrau tyllu am olew yno.

Ocensa a BP

Mewn achos llys yn Colombia, fe wnaeth y sawl a herwgipiodd Gilberto Torres ddweud mai’r cwmni olew Ocensa a dalodd $40,000 i’r grŵp paramilwrol ei ladd – a hynny oherwydd ei fod yn arweinydd undeb llafur y gweithwyr olew ac yn ymgyrchu tros hawliau dynol.

Er i Ocensa wadu’r honiadau hyn, fe wnaeth Barnwr yr achos, Teresa Robles Munar benderfynu bod rôl Gilberto Torres fel undebwr llafur wedi bod yn prif ffactor dros ei herwgipio a galwodd am ymchwiliad i rôl Ocensa yn hyn. Er, dyw’r ymchwiliad hwn erioed wedi digwydd.

Roedd gan BP gyfran o 15% yn Ocensa ar y pryd, felly mae Gilberto Torres a’r cyfreithwyr sy’n dwyn yr achos yn erbyn y cwmni yn honni ei fod yn gyfrifol hefyd.

Fe wnaeth Gilberto Torres drefnu streic gweithwyr olew mewn protest dros lofruddiaeth ei ffrind, Aury Sara, arweinydd undeb llafur arall, gan leihau cynhyrchiant y cwmni rhyngwladol. Dyma wnaeth arwain at ei herwgipio yn 2002.

Gwir a chyfiawnder

“Ydw, dw i’n meddwl bod BP wedi chwarae rôl yn fy herwgipio,” meddai Gilberto Torres wrth golwg360.

“Dw i yma er mwyn codi ymwybyddiaeth a siarad am fy mhrofiadau annifyr, ac i gael y gwir a chyfiawnder. I’r cwmnïau (olew) does dim gwerth i fywyd dynol, a’r unig beth sydd â gwerth iddyn nhw yw arian.”

Ei brif fwriad wrth ddod i Brydain yw galw ar y llywodraethau yma i greu deddf er mwyn erlyn cwmnïau sy’n “treisio” hawliau dynol pobol yn y gwledydd lle maen nhw.

Ymateb BP

“Tra bod BP yn gresynu at be ddigwyddodd i Sr Torres, rydym yn gwrthod unrhyw honiad bod BP wedi cael unrhyw gysylltiad â’r digwyddiad neu wybodaeth amdano neu fod BP wedi llogi, gweithio gyda neu annog gweithgareddau parafilwrol yn Columbia yn ystod yr amser yr oedd yn gweithio yno,” meddai llefarydd ar ran BP.

“Erbyn hyn, nid oes gan BP unrhyw weithrediadau olew a nwy yn Colombia, ond drwy gydol ei amser yno, fe wnaeth gondemnio gweithredoedd trais a therfysgaeth yn gyhoeddus.

“Mae BP yn bwriadu amddiffyn yr achos llys sydd wedi dod gan Sr Torres yn gadarn.”