Fe fydd chwech o berfformwyr ifanc yn cystadlu â’i gilydd mewn cyngerdd nos Sul nesaf i geisio cipio Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni sydd werth £4,000.

Y cystadleuwyr yw Steffan Hughes o Langwyfan, Alys Mererid Roberts o Roslan ger Cricieth, Gwen Elin Jones o Fenllech, Meinir Wyn Roberts o Gaernarfon, Sarah-Louise Jones o’r Rhondda a Rhodri Prys Jones o Lanfyllin.

Mae’r wobr, sy’n cael ei chyflwyno gan yr Urdd, yn fodd o helpu’r enillydd i feithrin eu talent.

Cafodd y chwech fydd yn cymryd rhan yn y cyngerdd yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duan, ar 25 Hydref eu dewis o blith holl gystadlaethau unigol categorïau dan 25 oed Eisteddfod yr Urdd Caerffili eleni.

Fe fydd y cyngerdd yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C gydag Anni Llŷn a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno.

Cyngor gan Bryn

Cafodd y chwe ymgeisydd ar gyfer yr ysgoloriaeth – pump ohonyn nhw o’r gogledd ac un o’r Rhondda – eu dewis gan banel o feirniaid oedd yn cynnwys Stifyn Parri, Gwawr Owen, Gwenan Gibbard, Siân Teifi a Catrin Lewis Defis, a nhw fydd hefyd yn dewis yr enillydd buddugol.

Mae’r cerddorion ifanc eisoes wedi mynychu dosbarthiadau meistr gyda pherfformwyr amlwg a chael cyngor ar gyfer sut i gystadlu am yr ysgoloriaeth gan bobl megis Wynne Evans, Fflur Wyn, Connie Fisher, Rhys ap Trefor, Ian Baar a Susan Bullock.

Cafodd y wobr ei sefydlu yn 1999 i geisio meithrin talent rhai o berfformwyr ifanc gorau  Cymru, gyda chefnogaeth y canwr opera enwog Bryn Terfel.

“Mae’n bwysig bod y cystadleuwyr yn gwrando ar gyngor gan athrawon ac yn y dosbarthiadau meistr, ond hefyd yn cofio cadw stamp personol ac unigryw ar y perfformiad,” meddai Bryn Terfel wrth drafod yr ysgoloriaeth.

“Mae’n bwysig eu bod yn gyfforddus gydag unrhyw berfformiad, gan gadw o fewn eu terfynau.”

Cystadleuwyr Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2015

Steffan Hughes

Yn wreiddiol o Langwyfan ond bellach yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, dyma fydd yr ail dro iddo gystadlu am yr ysgoloriaeth.

“Dw i’n gobeithio dangos sut ydw i wedi aeddfedu fel perfformiwr yn y ddwy flynedd ers i mi gystadlu y tro diwethaf a dw i’n edrych ymlaen at gael cyfle i arddangos fy sgiliau o flaen cynulleidfa eang. Yn y dyfodol mi rydw i’n gobeithio canu’n broffesiynol,” meddai.

Alys Mererid Roberts

Yn wreiddiol o Roslan ger Cricieth, mae hi bellach yn astudio Saesneg a Cherddoriaeth yn Durham a newydd orffen cwrs MA dwy flynedd mewn astudiaeth leisiol yn y Royal Academy of Music yn Llundain.

“Dw i wrth fy modd yn cystadlu am yr Ysgoloriaeth! Mae’n gymaint o anrhydedd cael fy newis fel un o’r chwech i ymgeisio am y wobr fawreddog hon!,” meddai.

“Mi fyddai ennill yr ysgoloriaeth yn anrhydedd anfarwol ac yn hwb enfawr i mi ar gychwyn fy ngyrfa fel hyn.  Mi fyddai hefyd yn codi fy mhroffil fel cantores o fewn Cymru.”

Gwen Elin Jones

Bellach yn astudio ym Mhrifysgol Bangor ond yn wreiddiol o Benllech ar Ynys Môn.

“Yn y dyfodol mi ydw i’n gobeithio parhau i wneud sioeau cerdd ac mi fyddwn yn hoffi cael perfformio yn y West End,” meddai.

“Mi fyddwn i hefyd yn hoffi mynd i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama yng Nghaerdydd neu Lundain i astudio ymhellach.”

Meinir Wyn Roberts

Wedi ennill gradd dosbarth cyntaf BMus o’r Royal Northern College of Music, mae hi nawr yn gwneud cwrs MA dwy flynedd yn y Royal Academy of Music yn Llundain.

“Mae’n anrhydedd cael cystadlu am yr Ysgoloriaeth – yr eisin ar ben y gacen i fi,” meddai’r ferch o Gaernarfon.

“Byddai’n anrhydedd fawr iawn pe byddwn i’n ennill yr Ysgoloriaeth a byddai’r cyhoeddusrwydd yn fuddiol heb sôn am gael enw uchel ei barch Bryn Terfel ar CV.  Byddai hynny’n fuddiol iawn i mi gan fy mod yn dymuno dilyn gyrfa ym myd opera.”

Sarah-Louise Jones

Yn wreiddiol o’r Rhondda, newydd orffen BA mewn Drama a Theatr ym Mhrifysgol De Cymru a nawr ar fin cychwyn MA Theatr Gerddorol a Drama ym Mhrifysgol De Cymru.

“Yr hyn sydd yn fy nghyffroi fwyaf yw cael cystadlu yn erbyn pobl o feysydd gwahanol o fewn y celfyddydau,” meddai.

“Rwy’n gobeithio actio’n broffesiynol ac oherwydd bod yr Ysgoloriaeth yn uchel iawn ei bri o fewn y byd perfformio, byddai ennill yn gam enfawr tuag at ddyfodol yn y byd actio.

Rhodri Prys Jones

Bellach yn fyfyriwr yn y Guildhall yn Llundain ar ôl cwblhau gradd BA Cerdd a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol y Drindod Caerfyrddin.

“Dw i’n edrych ymlaen at gael cystadlu am yr ail waith,” meddai’r bachgen o Lanfyllin.

“Mae cael cystadlu am Ysgoloriaeth gydag enw fel Bryn Terfel yn gysylltiedig â hi yn fy nghyffroi i – ac mae’n wych fy mod yn cael cystadlu, nid yn unig yn erbyn cantorion gorau Cymru, ond y perfformwyr a’r cerddorion gorau hefyd.”