Sophie Howe (o wefan Heddlu De Cymru)
Wrth i ganol Caerdydd baratoi am benwythnos rygbi gwyllt arall, mae un o benaethiaid y gwasanaeth heddlu’n dweud fod yr holl glybiau a thafarndai’n achosi straen.

Mae landlordiaid anghyfrifol a phobol sy’n meddwi’n anghyfrifol yn creu problemau i’r heddlu a gwasanaethau eraill, yn ôl Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Sophie Howe.

Roedd yna drafferthion hefyd, meddai, oherwydd fod pobol yn dod i mewn i’r canol a nhwthau’n feddw eisoes ac roedd yna gyfrifoldeb ar archfarchnadoedd hefyd i fod yn fwy cyfrifol.

‘Problemau’

Mae yna tua 300 o glybiau a thafarndai ynghanol y ddinas ac ar benwythnosau fel y rhai rygbi, mae degau o filoedd o bobol yn tyrru yno.

“Mae gyda chi broblemau os nac yw’r sefyllfa’n cael ei rheoli’n dda ac os nad oes gyda chi landlordiaid cyfrifol,” meddai Sophie Howe wrth Radio Wales.

“Mae’n broblem anferth i’r heddlu a phartneriaid eraill wrth iddyn nhw orfod codi’r darnau.”

Roedd Heddlu De Cymru yn gorfod symud swyddogion o rannau eraill o’r ddinas i’r canol ermwyn cadw trefn, meddai.

  • Y penwythnos yma yw’r un ola’ o benwythnosau Cwpan Rygbi’r Byd yn y ddinas ac mae disgwyl prysurdeb mawr unwaith eto.