Mae beiciwr modur mewn cyflwr difrifol ar ôl i ddwy ddamwain ddigwydd o fewn ychydig amser i’w gilydd ar ffordd yr A55 ym Modedern ar Ynys Môn y bore yma.

Digwyddodd y ddwy ddamwain ger cyffordd 3 yng Nghaergeiliog, y cyntaf rhwng car Ford Focus llwyd a beic modyr Honda coch, a’r ail ychydig wedyn rhwng VW Polo du a Nissan Pathfinder du.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y ddamwain gyntaf toc cyn 8.20yb heddiw wedi gadael y beiciwr modur ag “anafiadau difrifol allai beryglu neu newid ei fywyd”.

Dal ar gau

Mae’r ffordd i’r ddau gyfeiriad wedi bod ynghau ers y ddamwain ac fe ddywedodd yr awdurdodau eu bod yn disgwyl i hynny bara am beth amser.

Roedd gwasanaethau brys gan gynnwys ambiwlans awyr a cherbydau’r frigâd dân eisoes wedi bod ar safle.

Yn ogystal â’r beiciwr modur fe gafodd un person arall eu cludo i’r ysbyty â mân anafiadau.

MaeHeddlu Gogledd Cymru wedi apelio ar  unrhyw dystion welodd y ddwy ddamwain, a ddigwyddodd ar y ffordd oedd yn mynd tua’r dwyrain, i gysylltu â nhw.

Cadw’n glir

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn ceisio ailagor y ffordd mor fuan â phosib, ond y dylai teithwyr ddisgwyl oedi.

Maen nhw eisoes wedi rhybuddio’r cwmnïau fferi yng Nghaergybi gerllaw y gallai’r damweiniau achosi trafferthion i’r traffig sydd yn teithio i’r porthladd ac oddi yno.

“Rydym yn cynghori teithwyr i ganfod ffyrdd eraill o deithio os yn bosib neu adael amser ychwanegol ar gyfer eich siwrne os nad oes modd gwneud hynny,” meddai’r Sarsiant Tony Gatley o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru.

Bydd ymchwiliad llawn nawr yn cael ei gynnal ac mae’r heddlu wedi gofyn i unrhyw dystion i’r ddwy ddamwain gysylltu â’r Uned Plismona Ffyrdd yn Llanelwy ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddefnyddio rhif cyfeirnod S157949.