Clwb Ifor Bach
Mae Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd wedi derbyn rhybudd gan reoleiddiwr hysbysebu am annog cwsmeriaid i feddwi.

Roedd neges ar dudalen Twitter y clwb yn dweud ‘Dewch i fynd yn hammered yn y Gymraeg. Ma’ bob aelod o staff bar ni’n siarad Cymraeg!”.

Cafodd yr hysbyseb ei osod ar dudalen Twitter y clwb yn ystod yr Awr Gymraeg, ac fe ddywedodd llefarydd ar ran y clwb mai’r nod oedd hysbysebu eu bod nhw’n cynnig gwasanaeth yn Gymraeg.

Derbyniodd yr Awdurdod Safonau Hysbysebu gŵyn fod yr hysbyseb yn anghyfrifol am ei fod yn annog cwsmeriaid i or-yfed.

Cytunodd y clwb y gallai neges yr hysbyseb fod wedi cael ei chamddehongli, ac y bydden nhw’n ofalus wrth hysbysebu yn y dyfodol.

Penderfynodd yr awdurdod fod yr hysbyseb yn torri rheolau’n ymwneud â hysbysebu alcohol, ac na ddylai’r hysbyseb ymddangos yn unman arall yn ei ffurf wreiddiol.

Cafodd y clwb rybudd i beidio annog gor-yfed yn y dyfodol.