Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gwerth £11.2 miliwn heddiw i helpu 1,500 o bobl ifanc i gael gwaith.

Nod y cynllun yw helpu 6,000 o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru a cheisio lleihau nifer y bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, heb waith na hyfforddiant (NEET).

Y nod yn y pendraw yw helpu 1,500 o’r bobl ifanc hyn i ddod o hyd i waith.

Mae’r ystadegau diweithdra diweddaraf yn dangos bod 7,000 yn llai o bobl yng Nghymru heb waith nag oedd ar ddechrau’r flwyddyn.

Mae £6.8 miliwn ar gyfer y prosiect newydd hwn yn dod gan gyllid o Ewrop ac mae’r Canolfan Byd Gwaith hefyd yn ei gefnogi.

Dod dros ddiffyg hyder, sgiliau a phrofiad

Bydd mentoriaid ieuenctid a chynghorwyr cyflogaeth yn cael eu lleoli ar draws 52 o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf y llywodraeth, sef y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, er mwyn helpu pobl ifanc i ddod dros rwystrau fel diffyg hyder, diffyg sgiliau a diffyg profiad.

Bydd cymorth ariannol hefyd yn cael ei roi i bobl ifanc er mwyn talu am gostau teithio a phrynu dillad addas.

Dyma fydd ail ran y rhaglen Cymunedau dros Waith a ddechreuodd ym mis Mai eleni, ac yn ôl y Llywodraeth, bydd yn helpu 8,000 o bobl i ddod o hyd i waith dros y tair blynedd nesaf.

“Mae’r cyhoeddiad yn dod â chyfanswm buddsoddi’r cynllun uchelgeisiol hwn i dros £41 miliwn,” meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones.

“Mae lleihau nifer y bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant yn un o’n blaenoriaethau allweddol,” meddai’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, a gyhoeddodd y cynllun heddiw.

“Bydd y cyllid yn helpu i drawsnewid bywydau miloedd o bobl ifanc yma yng Nghymru. Bydd y gefnogaeth ddwys gan fentoriaid profiadol yn sicrhau bod gan bobl rhwng 16 a 24 oed yr hyder, y sgiliau a’r cyngor sydd eu hangen arnyn nhw i ailymuno â byd addysg, dilyn hyfforddiant neu sicrhau swydd.”

Cymru’n “elwa” ar gyllid Ewrop

Wrth gyfeirio at y cynllun, fe wnaeth Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt, ddweud bod hwn yn “enghraifft arall o’r modd y mae Cymru’n elwa ar gyllid yr Undeb Ewropeaidd.”

“Rwy’n falch iawn fod cyllid yr UE yn helpu ein pobl ifanc i feithrin sgiliau a manteisio ar hyfforddiant er mwyn llwyddo yn y gweithle,” meddai.