Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi rhybuddio bod disgwyl i orwariant y bwrdd ddyblu i £30 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn.

Ym mis Mawrth, wrth gyflwyno Cynllun Gweithredol i Lywodraeth Cymru, fe ddywedodd y bwrdd iechyd, sydd mewn mesurau arbennig, eu bod yn disgwyl gorwariant o tua £14m.

Ond mewn cyfarfod heddiw, fe wnaeth Russell Favager, Cyfarwyddwr Cyllid y bwrdd ddweud bod y bwrdd wedi gorwario £12.8 miliwn yn fwy na’r disgwyl yn ystod pum mis cynta’r flwyddyn ariannol.

Yn ei adroddiad, mae Russell Favager yn nodi bod y gorwariant wedi cyfrannu at anghysondeb o £5.9 miliwn yn y flwyddyn hyd yma, yn ogystal â phwysau ariannol eraill o £6.9 miliwn. Mae’r rhain yn cynnwys cyflogi staff meddygol o asiantaethau i gyflenwi swyddi gwag, a mynd i’r afael a gofynion ansawdd a diogelwch ac amseroedd aros.

Mae Russell Favager wedi dweud y bydd yn rhaid gwneud arbedion pellach yn y bwrdd ac y bydd rhaid cwestiynu pob gwariant dewisol.

Mae’r bwrdd yn gobeithio cyflwyno argymhellion erbyn mis Tachwedd.

Peiriant newydd i’r uned radiotherapi

Yn y cyfamser mae’r bwrdd  wedi cymeradwyo gwario £1.7 miliwn ar beiriant newydd ar gyfer uned radiotherapi yn Ysbyty Glan Clwyd.

Roedd cyfarwyddwr Canolfan Trin Canser y gogledd wedi mynegi ei bryder y gall rhestrau aros am driniaeth radiotherapi gynyddu os na fydd offer newydd yn cael ei brynu.

Mae angen £1.7 miliwn ar y ganolfan arbenigol yn Ysbyty Glan Clwyd i brynu peiriant newydd.

Bydd yr arian yn dod gan roddion o wahanol elusennau – elusen ganser Ron a Margaret Smith, Legacy ac Awyr Las.

“Pryder difrifol” am restrau aros yr uned

Mewn adroddiad gan y cyfarwyddwr, Damian Heron, fe rybuddiodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy’n gyfrifol am y ganolfan bod “pryder difrifol” ynghylch yr amseroedd aros yn yr uned.

Ar hyn o bryd, 14 diwrnod yw’r targed i drin cleifion sydd angen triniaeth am eu canser.

Mae’r ganolfan yn cyrraedd y targed hwnnw 60% o’r amser, o’i gymharu â 100% yn Abertawe a 96.5% yn Felindre, Caerdydd.

Yn ei adroddiad i aelodau o’r bwrdd, dywedodd y cyfarwyddwr, “mai’r unig ffordd realistig o wella perfformiad” yr uned yw buddsoddi yn y peiriant newydd.

Bydd yn rhaid i’r bwrdd gael £250,000 yn ychwanegol hefyd i gyflogi staff ychwanegol.