Guto Bebb
Mae angen i’r cyfryngau Cymraeg a Chymreig gael “ystyriaeth annibynnol” yng nghyd-destun diwygio Siarter y BBC, yn ôl Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy.

Fe fydd Guto Bebb yn cyflwyno’r ddadl honno yn Senedd San Steffan y prynhawn yma, gan alw am adroddiad annibynnol ar ddyfodol S4C.

Fe ddywedodd wrth Golwg360 y bore yma ei fod yn teimlo fod “sefyllfa S4C yn cael ei hanwybyddu.”

Mae’n pwysleisio’r angen am ystyriaeth ar wahân ar gyfer S4C yng nghyd-destun adolygiad Siarter y BBC.

Yr oedd yn credu hefyd fod angen hybu amrywiaeth o fewn y wasg Gymreig, a bod darlledu cyhoeddus Cymraeg “yn adlewyrchu methiant yn y farchnad”.

Fe soniodd am brinder papurau dyddiol Cymreig, ac am “ddiffyg amrywiaeth o ffynonellau newyddion i’r genedl.”

Mae’n dadlau nad yw hynny’n wir am Loegr, a bod amrywiaeth o sianeli a sefydliadau newyddion i’w cael.

Cyd-destun Cymreig

Fe ddywedodd ar raglen y Post Cyntaf, BBC Radio Cymru y bore yma y byddai adolygiad annibynnol ar ddarlledu yng Nghymru yn beth da:

“Nid drwg o beth fyddai cael adolygiad cwbl annibynnol fyddai’n edrych be ydi pwrpas a rheswm dros fodolaeth sianel benodol Gymraeg yn yr 21ain Ganrif, a’n bod ni’n gwneud hynny mewn cyd-destun Cymreig yn annibynnol o’r broses o edrych ar Siarter y BBC.”

Bwriad ei ddadl y prynhawn yma yw ennyn trafodaeth am sefyllfa’r wasg yng Nghymru, gan bwysleisio’r angen am ystyriaeth annibynnol i S4C oddi wrth y BBC wrth i’w Siarter gael ei ddiwygio.