Eli Walker
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau mai Eli Walker sydd wedi cael ei alw i’r garfan i gymryd lle Liam Williams wedi i’r cefnwr anafu ei droed.

Fe fydd Williams nawr yn methu gweddill Cwpan y Byd ac yn debygol o fod allan am rai misoedd, ergyd arall i garfan sydd eisoes wedi gweld nifer o anafiadau difrifol i’w chwaraewyr.

Mae Cymru wrthi’n paratoi ar hyn o bryd i wynebu De Affrica yn rownd wyth olaf y gystadleuaeth, a hynny ar ôl iddyn nhw golli i Awstralia o 15-6 yn eu gêm grŵp olaf dydd Sadwrn.

Roedd Eli Walker yn rhan o garfan ymarfer wreiddiol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd, ond fe fu’n rhaid iddo dynnu nôl ar ôl anafu llinyn y gâr.

Chweched anaf

Fe fydd Walker yn ymuno â’r garfan yn eu canolfan yn Surrey yn syth, ond dyw hi ddim yn glir eto a yw wedi gwella’n llawn o’i anaf neu a fydd yn rhaid iddo aros nes gêm bosib yn y rownd gynderfynol i gael ei gyfle.

Bydd yr asgellwr 23 oed yn cymryd lle Liam Williams, gafodd gyfergyd yn yr ornest yn erbyn Lloegr bythefnos a hanner yn ôl cyn anafu’i droed wedyn yn erbyn Awstralia.

Mae pump arall o olwyr Cymru eisoes wedi gorfod tynnu nôl o’r garfan ar gyfer Cwpan y Byd gydag anafiadau – Leigh Halfpenny, Rhys Webb, Scott Williams, Hallam Amos a Cory Allen.

“Dyw’r nifer o anafiadau rydyn ni wedi’i gael ddim yn grêt,” cyfaddefodd un o hyfforddwyr Cymru Neil Jenkins.

“Rydyn ni’n genedl eithaf bach beth bynnag, ond roedd gennym ni dal linell ôl eithaf peryglus allan yna dydd Sadwrn a dw i’n siŵr y bydd yr un peth yn wir y penwythnos i ddod.”