Y sganiwr MRI newydd
Mae technoleg newydd mewn uned i blant a phobol ifanc sy’n dioddef o ganser yn cael ei lansio yn swyddogol heddiw yn Ysbyty Plant Cymru, Caerdydd.

Mae’r dechnoleg yn yr uned radioleg wedi’i chynllunio i geisio lleihau pryderon plant yn ystod sganiau a phrofion.

Mae’r uned yn ‘llawn lliw’, gyda goleuadau a seiniau arbennig wedi’u cynllunio i leddfu pryder y cleifion ifanc.

Mae’r dechnoleg, Latchmosphere, wedi’i hariannu gan gyfraniadau i Elusen Canser Plant Cymru, sef Latch.

Yn ôl Sian Howell o Latch, bwriad yr uned yw “lleddfu rhywfaint ar brofiadau erchyll y plant.”

“Mae nifer o’r plant sy’n dioddef o ganser yn dweud mai’r peth mwya’ ofnus iddyn nhw yw mynd i mewn i’r sganwyr mawr MRI,” meddai Sian Howell gan bwysleisio fod yn rhaid iddyn nhw fynd i mewn ar eu pennau eu hunain heb eu rhieni.

‘Profiad gwell’

Felly, fe wnaeth yr elusen benderfynu fod angen buddsoddiad i leddfu’r profiadau hyn, ac mae’n nodi fod staff yr ysbyty eisoes wedi gweld gwelliant ers cyflwyno’r cynllun.

“Maen nhw’n [y plant] fwy tebygol o aros yn llonydd nawr,” meddai “ac mae plant mor ifanc â 4 oed yn fodlon mynd mewn am ei fod yn brofiad gwell.”

Mi ddywedodd hefyd fod yr uned ddeniadol a hamddenol yn cynnig manteision meddygol i’r cleifion, am nad oes rhaid i gymaint ohonynt gael  anesthetig cyn mynd i mewn i’r sganwyr.

Mae waliau, lloriau a tho’r uned yn goleuo â lliwiau, ac mae’r plant yn medru dewis themâu, cerddoriaeth, a chymeriadau cartŵn wrth aros yn yr uned ac yn ystod sganiau.

Bydd yr uned yn Ysbyty Plant Cymru, Caerdydd yn cael ei lansio’n swyddogol y bore yma gyda’r Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething yn bresennol.