Yr Athro Gerald Holtham
Bydd academydd o Ysgol Fusnes Caerdydd yn Nhŷ’r Arglwyddi heddiw i roi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Economaidd y tŷ ar ei ymchwiliad i ddatganoli cyllid cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.

Yr Athro Gerald Holtham yw cadeirydd Comisiwn Holtham a dywedodd yr economegydd yn 2009 fod Cymru’n cael ei thangyllido o £300 miliwn y flwyddyn.

Cafodd Comisiwn Holtham ei benodi gan Lywodraeth Cymru i edrych ar fanteision ac anfanteision Fformiwla Barnett, y system sy’n penderfynu faint o arian gaiff Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gan Lywodraeth San Steffan.

Roedd y Comisiwn wedi cael ei sefydlu hefyd i ymchwilio i ffyrdd eraill o godi arian i’r Cynulliad ym Mae Caerdydd, gan gynnwys pwerau codi trethi.

Bydd y Pwyllgor Materion Economaidd hefyd yn casglu tystiolaeth gan gynrychiolwyr o grŵp INEOS, sy’n berchen ar burfa olew yn Grangemouth yn yr Alban a gan Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban.

Bydd y sesiwn, sy’n cael ei chynnal prynhawn ‘ma, yn trafod ymwybyddiaeth gyhoeddus a dealltwriaeth o’r cynigion ar gyfer datganoli a ph’un a oes angen newid Fformiwla Barnett am system yn seiliedig ar anghenion pob gwlad yn y DU.

Bydd trafodaeth hefyd ar weithredu ymreolaeth ariannol yr Alban yn dilyn y cynigion gafodd eu haddo ym Mil yr Alban ar ôl y refferendwm ar annibyniaeth y llynedd.