Mae dyn 20 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad ym Merthyr Tudful neithiwr.

Bu farw dau ddyn yn y gwrthdrawiad nos Sul, a ddigwyddodd tua 10.30yh ar Ffordd Aberdâr, ym Merthyr Tudful.

Dim ond un car, Seat Ibiza gwyn, oedd yn gysylltiedig â’r ddamwain. Mae’n debyg ei fod wedi gwrthdaro â pholyn telegraff.

Cafodd Rhys Jones, 18, a Ryan Gibbons, 20,  y ddau o ardal Bargoed, eu lladd yn y fan a’r lle. Mae trydydd person yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ac mae pedwerydd person yn cael triniaeth am fan anafiadau yn Ysbyty Tywysog Siarl, ym Merthyr.

Roedd pump o ddynion yn teithio yn y car ar y pryd.

Mae’r dyn 20 oed yn cael ei gadw yn y ddalfa tra bod ymchwiliad yr heddlu’n parhau.

Mae Heddlu’r De yn annog unrhyw un a welodd o Seat Ibiza yn cael ei yrru ynghanol tref Merthyr nos Sul cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

Dywedodd swyddog yr heddlu Gethin Hewer bod eu meddyliau “gyda theuluoedd y ddau ddyn ifanc yn ystod y cyfnod anodd hwn” a’u bod yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Mae’r ymchwiliad i achos y ddamwain yn parhau, meddai.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r gwrthdrawiad ffonio Heddlu’r De ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1500377114.