Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad ffordd pan gafodd cerddwr ei ladd y bore ma.

Bu’r dyn mewn gwrthdrawiad a char Seat Ibiza am 11:50am ddydd Llun ar yr A4042 yn agos i Bont Llanelen, ym mhentref Llanelen, ger Y Fenni.

Yn ôl Heddlu Gwent, mae swyddogion yn parhau i fod ar y safle ac mae ymchwiliadau yn cael eu cynnal ar hyn o bryd.

Mae’r ffordd yn dal i fod ynghau rhwng cylchfan Hardwick i’r de o Bont Llanelen, gyda’r traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Lôn y Sipsiwn.

Mae’n debygol y bydd yr heol ynghau am gyfnod hir eto.