Carwyn Jones
Mae myfyrwyr sy’n ymgyrchu dros swyddog sabothol llawn-amser ar gyfer y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd wedi croesawu sylwadau diweddar Prif Weinidog Cymru am yr ymgyrch.

Cafodd refferendwm ei chynnal yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn ystod wythnos gyntaf mis Mai ynghylch cael swyddog llawn-amser dros y Gymraeg yn yr Undeb.

Pleidleisiodd 1,138 o blaid (48%) a 1,229 yn erbyn (52%).

Fe wnaeth Carwyn Jones ei sylwadau mewn cyfweliad â phapur newydd y myfyrwyr Gair Rhydd, gan ddweud ei fod wedi synnu y bu’n rhaid cynnal refferendwm ar y pwnc yn y lle cyntaf a disgrifio’r canlyniad fel un “anffodus.”

“Dwi’n meddwl ei fod (y canlyniad) yn anffodus, achos bod myfyrwyr Cymraeg yn lleiafrif yng Nghaerdydd a’i fod yn debyg iawn bod pobl wedi pleidleisio yn y refferendwm heb wir ddeall beth oedd y goblygiadau i siaradwyr Cymraeg,” meddai wrth y papur newydd.

‘Haeddu cynrychiolaeth gyflawn’

Mae Steffan Bryn, Swyddog y Gymraeg gwirfoddol rhan-amser presennol yr undeb wedi croesawu sylwadau’r Prif Weinidog gan ddweud bod y Gymraeg yn “haeddu cael ei chynrychioli’n gyflawn” yn y brifysgol.

Yn ôl y myfyriwr, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn yng Nghaerdydd, dylai’r iaith gael ei hystyried fel “carfannau mawrion eraill o gorff y myfyrwyr megis ôl-raddedigion a myfyrwyr gofal iechyd,” sydd â swyddogion etholedig llawn-amser.

“Nid yw’r gynrychiolaeth sydd ar gael i fyfyrwyr Cymraeg ar hyn o bryd – lle bo’r Gymraeg yn cael ei gweld fel grŵp lleiafrifol ymylol – yn ddigonol,” meddai.

“Nid oes yr un swyddog sabothol yn siarad Cymraeg, ac ni wnaiff cyflogi aelod staff yn yr Undeb,  yn gyfrifol am gyfieithu yn bennaf, ddiwallu anghenion y Gymraeg a’r siaradwyr yn y Brifysgol na’r Undeb.”

Apelio ar yr Is-ganghellor

 

Bellach mae’r myfyrwyr yn awgrymu y gallai’r brifysgol ariannu swyddog sabothol dros y Gymraeg yn uniongyrchol, er bod awdurdodau’r brifysgol wedi gwrthod hyn.

 

“Os nad yw Awdurdodau’r Brifysgol yn barod i wrando ar leisiau eu myfyrwyr, gobeithiaf y byddan nhw’n fwy parod i wrando ar Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg,” meddai Steffan Bryn.

“O ystyried y manteision y daw yn sgil sefydlu swydd o’r fath o safbwynt bodloni ei myfyrwyr presennol, denu rhai newydd a chadarnhau ei hymrwymiad i’r Gymraeg fel blaenoriaeth strategol, byddem yn disgwyl i’r Brifysgol neidio ar y cyfle hwn.

“Apeliaf yn uniongyrchol ar i’r Is-Ganghellor Colin Riordan gwrdd â chynrychiolwyr myfyrwyr Cymraeg, yng ngoleuni sylwadau’r Prif Weinidog, i drafod sut y bydd y Brifysgol yn mynd ati i weithredu yn y maes hwn.”

Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae’r cyllid y maen nhw’n gofyn amdano i wneud hyn yn “swm bychan iawn o gymharu â’r grantiau enfawr gaiff Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd gan y Brifysgol ar hyn o bryd.”

Mae Prifysgol Caerdydd yn rhoi grant blynyddol o £2.6 miliwn i Undeb y Myfyrwyr, ynghyd â grantiau cyfalaf tuag at adeilad yr Undeb, sy’n £5.8 miliwn ers 2014.

Y Brifysgol yn gwrthod ymyrryd

 

Er hyn, mae’r Brifysgol yn gwrthod ymyrryd gan ddweud mai “mater i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn unig yw’r penderfyniad i ethol ac ariannu Swyddog Iaith Gymraeg sabothol ac amser llawn.”

“Er ein bod yn cydweithio’n agos iawn ag Undeb y Myfyrwyr, mae’n sefydliad ar wahân sy’n gweithredu o fewn telerau eu cyfansoddiad eu hunain a thrwy eu swyddogion etholedig,” meddai llefarydd ar ran y brifysgol.

“Mae Prifysgol Caerdydd eisoes yn rhoi llawer iawn o arian i Undeb y Myfyrwyr drwy grant. Undeb y Myfyrwyr sy’n penderfynu beth yw ei flaenoriaethau ariannu ar sail cynigion a gyflwynir yng Nghyfarfod Blynyddol yr Aelodau, Senedd y Myfyrwyr a Refferenda.”

Doedd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ddim am wneud sylw.