Mae Heddlu De Cymru yn apleio am dystion i wrthdrawiad traffig angheuol a ddigwyddodd neithiwr ar Heol Aberdâr, Merthyr Tudful.

Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 10.30yh nos Sul ger cyffordd Tramroad Side wrth i gar Seat Ibiza gwyn wrthdaro â pholyn telegraff.

Fe fu farw dau o deithwyr y car o anafiadau angheuol.

Mae trydydd person mewn cyflwr difrifol ar hyn o bryd, ac yn cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Mae swyddogion yr heddlu yn darparu cymorth i’r perthnasau agosaf drwy Swyddogion Cyswllt Teulu.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am unrhyw un oedd yn dyst i’r gwrthdrawiad, neu a welodd y car Seat Ibiza gwyn yn yr ardal cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â’r Heddlu.

Bu’r ffordd ynghau am tua 7 awr tra bo’r ymchwiliad dechreuol yn cael ei gynnal.

Mae Heddlu De Cymru wedi diolch i’r gymuned leol am eu hamynedd a’u dealltwriaeth tra bo’r ffordd ynghau.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu De Cymru ar 101, neu ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1500377114.