Nigel Owens
Dyfarnwr o Gymro Cymraeg fydd yn chwythu’r chwiban yn ystod gornest Grwp D Cwpan Rygbi’r Byd rhwng Ffrainc ac Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn heddiw.

Dyma fydd y tro cynta’ i Nigel Owens ddyfarnu yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.

Er mai ef yw’r Cymro sy’n dal y record am y nifer o gemau rhyngwladol y mae wedi’u dyfarnu, dyw e ddim wedi dyfarnu yn stadiwm prifddinas ei wlad ei hun cyn hyn.

Bydd gêm Ffrainc ac Iwerddon yn dechrau am 4.45yp.