Elin Jones AC
Mae Elin Jones, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, wedi cyfeirio at dystiolaeth gan Age Cymru ar dementia fel tystiolaeth fod angen dybryd am gynlluniau ei phlaid i gael gwared ar rai taliadau gofal cymdeithasol.

Yn ôl Age Cymru, mae 45,000 o bobl yn dioddef o dementia yng Nghymru ar hyn o bryd. Dengys ffigurau Llywodraeth Cymru y gall hyn gynyddu o 35% dros 20 mlynedd.

Yr wythnos hon, cyhoeddodd Plaid Cymru gynlluniau i gael gwared ar y rhaniad hanesyddol rhwng gofal iechyd a chymdeithasol, sy’n golygu fod nifer o bobl oedrannus a dioddefwyr o dementia yn gorfod talu oherwydd fod eu gofal yn cael ei ddiffinio yn ‘gymdeithasol’ yn hytrach na dod o dan y Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd Elin Jones, AC Ceredigion a Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru: “Sicrhau tegwch a chyfartaledd yw pwrpas y cynlluniau a gyhoeddais i yr wythnos hon. Ar hyn o bryd, gall pobl sydd â dementia ddisgwyl mynd trwy brawf modd ac yn aml byddant yn talu am eu gofal.

“Mae’r dreth dementia hon yn effeithio ar 45,000 o bobl yng Nghymru; ffigwr sydd ar gynnydd. Rwy’n credu fod hyn yn annerbyniol. Mae cywiro’r anhegwch hanesyddol yma yn ganolog i gynlluniau Plaid Cymru i integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol, a gwaredu taliadau gofal yr henoed.”