Wrth ymateb i’r ffaith fod Cymru wedi cymhwyso i’r bencampwriaeth bêl-droed Ewropeaidd y flwyddyn nesaf yn Ffrainc, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leader Leanne Wood: “Go dda, Cymru!

“Rydych wedi dangos beth fedr cenedl fechan wneud pan fydd yn cyd-chwarae,” meddai arweinydd Plaid Cymru. “Mae eich tîm wedi credu ynddynt ei hun o’r dechrau’n deg, ac wedi ennill ar waethaf pob amheuaeth. Maen nhw’n esiampl wych i weddill y genedl.

“Gall dilynwyr pêl-droed Cymru yn  awr edrych ymlaen at eu twrnament rhyngwladol pel-droed cyntaf ers 1958.  Maen nhw wedi cefnogi’r tîm trwy’r blynyddoedd da a’r blynyddoedd llwm – maen nhw’n haeddu hyn.

“Rwy’n grediniol y bydd fflyd o geisiadau am wyliau blynyddol fore dydd Llun ar gyfer yr haf nesaf pan gynhelir y bencampwriaeth!”