Awstralia 15 – 6 – Cymru

Methiant oedd ymdrech Cymru i orffen ar frig Grŵp A Cwpan Rygbi’r Byd wrth iddyn nhw golli i Awstralia yn Twickenham.

Cymru sgoriodd y pwyntiau cyntaf o’r gêm gyda throed Dan Biggar yn trosi yn y munudau cyntaf.

Daeth Awstralia yn ôl gyda chic gosb Bernard Foley, cyn iddo ychwanegu un arall i roi ei dîm ar y blaen 6-3 wedi hanner awr.

Roedd wastad yn mynd i fod yn gêm glos ac o fewn dwy funud roedd hi’n gyfartal eto gyda Biggar yn trosi.

Gornest rhwng y maswyr oedd hi, â’r ddau wedi cicio’n ardderchog yn ystod y bencampwriaeth. Rhoddodd Foley y flaenoriaeth i’w dîm eto wedi 36 munud, ac roedd amser cyn yr hanner i Biggar ychwanegu at ei record berffaith yn cicio at y pyst yn ystod y twrnament…ond yn rhyfeddol, methodd maswr y Gweilch gyda chic fyddai’n rhwydd iddo fel arfer.

Awstralia’n arwain 9-6 ar yr hanner felly, ond dim llawer rhwng y timau.

Cyfle euraidd Cymru

Roedd Cymru’n edrych yn beryglus ar ddechrau’r ail hanner, gan ymosod yn benderfynol. Er hynny, Awstralia sgoriodd eto wedi 50 munud i ymestyn eu blaenoriaeth i 6 phwynt ar ôl i Faletau droseddu.

Roedd Cymru’n dal i bwyso, a daeth eu cyfle mawr wrth i Will Genia weld cerdyn melyn am faglu Gareth Davies wrth iddo geisio cymryd cic gosb gyflym – Awstralia lawr i 14 a Chymru’n pwyso.

Daeth Cymru’n agos iawn at sgorio cais funud yn ddiweddarach wrth i Faletau groesi’r gwyngalch, ond dangosodd y camerau fod yr wythwr wedi colli rheolaeth o’r bêl wrth wneud hynny.

Yna, daeth hyd yn oed mwy o fantais i’r Cymry wrth i Awstralia golli dyn arall i’r cell callio – Dean Mumm yn gweld melyn y tro hwn am droseddu’n erbyn Alun Wyn Jones wrth iddo neidio yn y llinell.

Taflodd Cymru bopeth at Awstralia gyda sgrym ar ôl sgrym yn rhoi’r gwrthwynebwyr dan bwysau, ond i fod yn deg i Awstralia roedd eu hamddiffyn yn ardderchog.

Methodd Cymru a sgorio unrhyw bwyntiau yn y cyfnod tyngedfenol hwnnw, ac i ychwanegu halen at y briw llwyddodd eu gwrthwynebwyr i sgorio tri phwynt cyn gweld 15 yn ôl ar y cae.

Os na fydd Cymru’n curo De Affrica yn y chwarteri, bydd Warren Gatland a’i ddynion yn edrych nôl ar y cyfnod yma o’r bencampwriaeth fel cyfle euraidd a gafodd ei golli.