Janice Gregory AC
Fydd Janice Gregory, Prif Chwip Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol, ddim yn sefyll yn etholiadau mis Mai’r flwyddyn nesa’.

Mae’r Aelod Cynulliad tros Ogwr, a gafodd ei hethol i’r Cynulliad cynta’ un yn 1999, yn ymddeol yn 2016, a hynny ar ol cynrychioli’r ardal a fu’n sedd Seneddol i’w thad, Ray Powell AS.

“Ro’n i’n browd i fod yn aelod o’r Cynulliad cynta’ yn 1999, ac rwy’n browd o’r cynnydd y mae’r sefydliad wedi’i wneud ers hynny,” meddai Janice Gregory mewn datganiad.

“Mae wedi gwella ansawdd bywyd pobol Cymru.

“Wna’ i byth anghofio’r hyn sydd wedi’i gyflawni yn y 16 mlynedd aeth heibio,” meddai wedyn, “ond rwy’n teimlo mai nawr yw’r amser i mi sefyll lawr.”