Yn ôl llefarydd yr wrthblaid ar Gymunedau mae cynlluniau atal tlodi Llywodraeth Cymru wedi methu.

Mae Mark Isherwood AC wedi beirniadu’r llywodraeth am “wario miliynau” ar gynlluniau atal tlodi “sydd wedi gadael lefelau tlodi yng Nghymru yn statig”.

Wrth gwestiynu’r Gweinidog Cymunedau, Lesley Griffiths yn Siambr y Senedd yr wythnos hon, gofynnodd y Ceidwadwr pam fod “mwy nag un o bob pum person yng Nghymru yn dal i fyw mewn tlodi, pan fod arian wedi cael ei wario ar raglenni i fynd i’r afael â’r broblem?”

Fe wnaeth gyfeirio ar adroddiad Sefydliad Bevan, The shape of Wales to come, sy’n darogan y bydd Cymru’n fwy tlawd yn economaidd erbyn 2020 o’i gymharu â gweddill gwledydd Prydain.

Roedd awduron yr adroddiad hefyd ddweud y bydd mwy o bobl yn sâl a bydd y bwlch yng nghyrhaeddiad addysg yng Nghymru yn aros.

“Mae gan Gymru’r lefelau uchaf o dlodi plant yng nghenhedloedd y DU, yr ail fwyaf o ranbarthau’r DU, ac mae wedi bod yn codi ers 2004,” meddai Mark Isherwood.

Lesley Griffiths yn ymateb

Fe wnaeth Lesley Griffiths ymateb drwy nodi ei bod yn gweithio’n “agos” gyda’r Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart i “sicrhau bod y sector preifat, er enghraifft, yn cymryd rhan yn ein rhaglen Esgyn, lle mae dros 2,000 o bobl wedi cael cyfleoedd hyfforddi.”

“Rydym newydd lansio Cymunedau dros Waith hefyd, sy’n gweithio ochr yn ochr â’n rhwydwaith Cymunedau yn Gyntaf.”

Fe ofynnodd Mark Isherwood pam fod lefelau tlodi yng Nghymru wedi parhau’n “statig” ers dechrau’r 2000au, “wrth ystyried bod ardaloedd eraill yn y DU â thlodi uchel, fel gogledd-ddwyrain Lloegr wedi lleihau eu lefelau tlodi yn fwy na Chymru dros yr un cyfnod?”

Atebodd y Gweinidog, “Rydym wedi gweld newid yn rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn ddiweddar i sicrhau ein bod yn helpu pobl ifanc yn enwedig i gael sgiliau gwaith ac i sicrhau eu bod yn addas at eu diben a dyna beth rydym wedi bod yn gwneud â Chymunedau yn Gyntaf.”

Mae’r Ceidwadwyr wedi cyhuddo’r llywodraeth am “fradychu’r rhai sydd angen cymorth fwyaf i fynd i’r afael ag achosion tlodi.”

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, mae’r llywodraeth wedi gwario dros £323 miliwn ar daclo tlodi eleni ac ers 2012, pryd ddechreuodd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, mae ei chyllid wedi codi o £10.5 miliwn yn 2012/13 i £31.6 miliwn yn 20015/16.