Aaron Ramsey, Gareth Bale ac Owain Fon Williams ar ôl i Gymru drechu Gwlad Belg - fyddan nhw'n dathlu eto nos Sadwrn? (llun: CBDC)
Fe fyddai gweld Cymru’n sicrhau eu lle yn Ewro 2016 nos yfory yn golygu mwy nag unrhyw beth i Owain Fôn Williams – gan gynnwys ennill ei gap cyntaf.

Mae golwr Inverness wedi bod yn rhan o garfan Cymru drwy gydol eu hymgyrch ragbrofol i geisio cyrraedd Ffrainc, gyda’r tîm nawr dim ond angen pwynt arall o fod yn saff o’u lle.

Ac mewn cyfweliad arbennig â golwg360 cyn i’r tîm deithio i Zenica i herio Bosnia, mae’r gŵr o Benygroes yn cyfaddef bod y garfan wedi breuddwydio am y diwrnod yma ers sbel.

“Mi wnawn ni wynebu Bosnia dydd Sadwrn ac wedyn gweld lle rydan ni’n sefyll. Os ‘da ni’n ddigon ffodus i fynd a hi neu gael pwynt yna, wedyn grêt, dyna ‘da ni’n anelu i wneud wrth gwrs,” meddai Owain Fôn Williams.

“Os wnaiff o ddim digwydd, ‘da ni’n gwybod bod rhaid i ni orffen y job sydd ar ein dwylo nos Fawrth [yn erbyn Andorra].”

Gwyliwch y cyfweliad llawn ag Owain Fôn Williams yma:

Cap cyntaf

Er bod Owain Fôn Williams wedi bod yn aelod cyson o garfan Cymru ers cael ei alw mewn am y tro cyntaf nôl yn 2009, dydi o na’r golwr wrth gefn arall Danny Ward heb ennill eu capiau cyntaf eto.

Petai Cymru’n sicrhau eu lle yn Ewro 2016 yn erbyn Bosnia nos Sadwrn, fodd bynnag, mae’n bosib y byddai’r rheolwr Chris Coleman yn gorffwys Wayne Hennessey ac yn rhoi cyfle i un o’i golwyr eraill yn yr ornest olaf yn erbyn Andorra.

I Owain Fôn Williams, fodd bynnag, gweld y genedl yn cael cyfle i ddathlu yw ei brif nod.

“Bysa wrth gwrs, ‘sa fo’n grêt [ennill cap cyntaf],” meddai’r golwr 28 oed.

“Ond fel Cymro, dw i jyst eisiau gweld fy ngwlad yn cyrraedd Ffrainc. Dydi o ddim wedi digwydd ers tro, ‘da ni gyd yn gwybod a ‘da ni gyd yn disgwyl mor hir i Gymru gyrraedd rhywle.

“Rydan ni bron iawn yna rŵan, ‘da ni o fewn pwynt o gyrraedd a gwneud rhywbeth hanesyddol. Felly gobeithio awn ni â hi dydd Sadwrn.”

Pod Pêl-droed Golwg360 cyn gemau Cymru yn erbyn Bosnia ac Andorra:

Iolo Cheung