Mae myfyrwraig yn adran Gwyddor Anifeiliaid Prifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i pam bod cathod yn lladd cymaint o anifeiliaid eraill.

Wedi’i hysbrydoli gan gyfres dditectif Y Gwyll mae Henriette Wisnes yn edrych ar beth yn union mae cathod yn ei fwyta mewn gwahanol ardaloedd.

Mae llawer yn credu bod miliynau o anifeiliaid yn cael eu ’dileu’ gan gathod bob blwyddyn. Ac yn ei gwaith, bydd y fyfyrwraig yn gofyn a yw bwydlen ein cyfeillion blewog yr un ar draws y wlad? Neu a oes yn well ganddyn nhw gynnyrch lleol? Ac a yw cathod rhai gwledydd yn ffyrnicach nac eraill?

Gan ddefnyddio ffurflen ar-lein, bu Henriette Wisnes yn gofyn i’r cyhoedd ddatgelu cyfrinachau bwyta eu cathod, ac mae mwy na 250 o gyfranogwyr o’r Deyrnas Unedig ac Ewrop wedi ymateb.

“Mae’n ymddangos bod yn well gan rai cathod yr hyn y byddai rhywun yn ei ddisgwyl: y llygod ac adar arferol. Mae gan eraill chwaeth fwy anarferol: daeth un perchennog o hyd i neidr y gwair fyw yn ei lolfa!

Gallwch roi gwybodaeth am dueddiadau bwyta eich cathod fan hyn, http://bit.ly/1j9lE3c