Yr ardd
Mae Gardd Fotaneg Cymru yn dweud y bydd angen amser cyn cyrraedd y targed o fod yn ddwyieithog.

Roedd yn fater o “siwrnai” nid o “droi swits a gwneud popeth yn berffaith” medden nhw  wrth golwg360 ar ôl cyfarfod gydag ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith ddydd Mercher.

Fe wnaeth y mudiad iaith ddweud ddoe eu bod yn “croesawu newid agwedd” yr Ardd yn y cyfarfod ond bod “angen mynd ymhellach” – hynny ar ôl cwynion penodol am arwyddion uniaith Saesneg yn tynnu sylw at yr ardd.

Yn ôl y Gymdeithas, fe wnaeth Gardd Fotaneg Cymru, sy’n Sir Gaerfyrddin ymrwymo i beidio â chodi arwyddion uniaith Saesneg eto, ac i lansio gwefan gwbl ddwyieithog.

Cyfarfod “adeiladol”

“Roedd yn gyfarfod da, adeiladol iawn. Mae’n amlwg bod gan ein dau sefydliad llawer yn gyffredin: achosion cyffredin ac amcanion cyffredin,” meddai llefarydd ar ran yr Ardd Fotaneg.

“Roedd yn dda clywed ein bod ni gyd yn cydnabod nad yw’r materion hyn am ‘droi swits’ a gwneud popeth yn berffaith. Mae am fynd ar daith (i gyrraedd eu hamcanion iaith).”

Yn ôl y llefarydd, mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud y byddan nhw’n “ffrindiau beirniadol” o’r sefydliad er mwyn ei “helpu ar hyd y ffordd.”

Ond mae’r mudiad hefyd wedi dweud bod “disgwyliadau uchel” o’r Ardd fel sefydliad cenedlaethol.

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn derbyn grant o tua £650,000 y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru, ac mae wedi derbyn £70,000 oddi wrth Gyngor Sir Gaerfyrddin eleni.