Nathan Gill
Nid methiant i werthu tocynnau oedd yn gyfrifol am ohirio cynhadledd hydref UKIP yn Abertawe, yn ôl arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill.

Dywedodd cwmni Ticketsource nad oedd digon o docynnau wedi cael eu gwerthu ar gyfer y digwyddiad yn Stadiwm Liberty ar Hydref 23.

“Rwtsh llwyr” yw’r honiadau yn ôl Nathan Gill, ac fe ddywedodd wrth Golwg360 y bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal fis Chwefror nesaf pan fyddai mwy o amser i hysbysebu’r digwyddiad.

Esboniad ddim yn dal dŵr

Ond mae Golwg360 yn gallu dangos nad yw esboniad Nathan Gill yn dal dŵr yn llwyr.

“Mae Ticketsource yn gofyn i chi roi reswm pam eich bod yn canslo digwyddiad,” meddai Nathan Gill.  “Mae’n rhoi tri opsiwn, a dydych chi ddim yn gallu dewis unrhyw beth arall.”

Yn ôl Nathan Gill, y rhesymau sy’n cael eu cynnig yw diffyg gwerthiant tocynnau, tywydd gwael neu salwch/perfformiwr yn tynnu’n ôl.

Ond o wirio’r wefan ddydd Iau, roedd hefyd yn cynnig blwch lle gall trefnydd digwyddiad nodi rheswm arall.

Dyma ymateb Nathan Gill: “Mae’n amlwg bod yr opsiwn anghywir wedi cael ei ddewis.

“Fe fyddai wedi bod yn rhyfedd nodi ‘tywydd gwael’ mor bell â hyn ymlaen llaw, felly mae rhywun wedi dewis yr opsiwn tocynnau gan nad oedd opsiwn arall.”

‘Edrych ymlaen’

Er gwaethaf gohirio’r gynhadledd, dywedodd Nathan Gill fod y blaid yn edrych ymlaen at y digwyddiad ym mis Chwefror.

“R’yn ni’n gyffrous dros ben ynghylch ein cynhadledd genedlaethol gyntaf yng Nghymru.

“Mi fydd yn garreg gamu ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yng Nghymru ac mae hynny’n destun cyffro i ni.”

Er bod y gynhadledd wedi’i gohirio, mae disgwyl o hyd i Nathan Gill a Nigel Farage ymweld ag Abertawe ar Hydref 23 yn rhan o’u taith i ymgyrchu o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.