Mae’r heddlu’n apelio o’r newydd am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ar ddyn 19 oed y tu allan i far yng nghanol dinas Abertawe.
Digwyddodd yr ymosodiad y tu allan i Bar Oxygen am oddeutu 5 o’r gloch fore Sadwrn, Mehefin 20.
Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty yn dilyn ffrwgwd, ac fe ddioddefodd anafiadau difrifol i’w wyneb.
Cafodd dyn 32 oed o Rydaman ei arestio a’i ryddhau ar fechnïaeth yn dilyn y digwyddiad, ond mae’r heddlu’n awyddus i siarad â dau ddyn a dynes.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.