Yr Ardd Fotaneg yn Llanarthne
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu ymrwymiad Gardd Fotaneg Cymru yn Sir Gaerfyrddin mewn i beidio â chodi arwyddion uniaith Saesneg eto.

Yn ôl y mudiad iaith, a fu mewn cyfarfod â nhw ddoe, mae’r Ardd hefyd wedi dweud y byddan nhw’n lansio gwefan gwbl ddwyieithog. Nid oes gan yr Ardd Fotaneg wefan gwbl Gymraeg ar hyn o bryd.

Er hyn, mae ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod angen i reolwyr fynd ymhellach wrth recriwtio a hyfforddi gweithwyr.

Daw’r ymrwymiad yn dilyn pwysau gan Gymdeithas yr Iaith ar yr Ardd Fotaneg i ddarparu gwasanaethau dwyieithog.

‘Newid agwedd’

“Mae’r cyfarfod adeiladol yma’n dangos bod newid agwedd wedi bod ar ran yr Ardd. Yn dilyn pwysau gan y Gymdeithas, llwyddon ni i gynnal y cyfarfod yn Gymraeg – rhywbeth nad oedd yr Ardd yn barod i’w wneud rhai misoedd yn ôl,” meddai David Williams o Landeilo, oedd yn cynrychioli’r mudiad yn y cyfarfod.

“Maen nhw wedi addo y byddan nhw’n cadw at eu cynllun iaith nawr – felly bydd sefyllfa anffodus gydag arwyddion uniaith Saesneg ddim yn codi eto.

“Fel sefydliad cenedlaethol, ac fel cyflogwr lleol ble mae canran uchel o siaradwyr Cymraeg, mae angen i’r Ardd adlewyrchu hynny. Mae’n hollbwysig bod yr Ardd yn parchu ac yn cefnogi’r Gymraeg.

“Yn ogystal â’r hyn maen nhw wedi addo, dylai fod ganddynt gynllun i recriwtio rhagor o weithwyr sy’n medru’r Gymraeg.”

‘Gwefan gwbl ddwyieithog’

Roedd Manon Elin, Cadeirydd Grŵp Hawliau i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi croesawu “newid agwedd yr Ardd”,

“Er bod oedi mawr wedi bod wrth sicrhau gwybodaeth Gymraeg ar eu gwefan, ac er i’r Ardd gael arian ychwanegol yn 2012 er mwyn lansio gwefan ddwyieithog, maen nhw wedi addo y byddan nhw’n lansio gwefan newydd gwbl ddwyieithog yn y flwyddyn newydd, sydd yn rhywbeth i’w groesawu,” meddai.

“Gyda’r datblygiadau hyn rydyn ni’n gobeithio bydd yr Ardd yn fwy uchelgeisiol ac yn symud tuag at weithio’n fewnol yn Gymraeg hefyd.”

“Mae Cyngor Sir Gâr a’r Llywodraeth wedi nodi eu pryderon nhw am ddarpariaeth y Gymraeg ac rydym yn gobeithio y byddan nhw hefyd yn cadw llygad ar ddatblygiadau yn yr Ardd.”

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn derbyn grant o tua £650,000 y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru, ac mae wedi derbyn £70,000 oddi wrth Gyngor Sir Gaerfyrddin eleni.