Mae cynllun wedi’i gyflwyno i annog staff Cyngor Cernyw i gyfarch y cyhoedd yn y Gernyweg.

Yn ôl y cynllun, byddai staff yn derbyn gwersi Cernyweg er mwyn gallu defnyddio ymadroddion bob dydd.

Dim ond 500 o bobol o blith 532,300 yng Nghernyw sy’n medru’r iaith bellach, yn ôl y Cyfrifiad diwethaf yn 2011.

Fe fydd Cynllun Iaith Gernyweg yn cael ei gyflwyno gerbron Cyngor Cernyw fis nesaf.

Mae’r cynllun yn awgrymu rhoi “hyfforddiant mewn ymadroddion allweddol a chyfarchion i staff y dderbynfa”.

Ar hyn o bryd, meddai’r cynllun, “does dim darpariaeth na hyfforddiant penodol yn cael ei gynnig”.

‘Diddordeb yn cynyddu’ 

Dywed y cynllun: “Mae’r diddordeb yn y Gernyweg yn uwch nag erioed bellach, ac mae nifer y dysgwyr a siaradwyr wedi cynyddu’n sylweddol.

“Mae’r Gernyweg bellach yn cael ei defnyddio’n eang fel arwydd o hynodrwydd lleol ac mae’n rhan annatod o fywyd diwylliannol Cernyw.”

‘Ased diwylliannol unigryw’ 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Cernyw: “Mae’r cyngor yn cydnabod fod y Gernyweg yn ased diwylliannol unigryw sy’n tanlinellu hynodrwydd Cernyw a bod ganddi ran bwysig i’w chwarae ym mywyd diwylliannol, economaidd a chymdeithasol y rhanbarth.”

Mae’r Gernyweg bellach yn cael ei chydnabod fel ‘iaith fyw’ gan Siartr Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop 2002, ac mae’n derbyn £120,000 gan Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan a £30,000 gan Gyngor Cernyw bob blwyddyn.