Traffordd yr M4
Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi  £19.8 miliwn yn 2015-16 ar gyfer gwaith paratoi ffordd osgoi ar yr M4, datgelodd Cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru am adeiladu’r ffordd er mwyn delio â thraffig ar y rhan o’r draffordd yng Ngwent o gwmpas ardal Casnewydd, ac er na fydd y gwaith adeiladu yn dechrau tan 2018, bydd y Llywodraeth yn gwario’r arian hwn ar “waith asesu ac ymgynghori â’r cyhoedd”.

Mae Plaid Cymru wedi gwrthwynebu’r cynllun o’r dechrau gan ddweud bod ‘na ffyrdd rhatach o ddelio â thagfeydd traffig ar yr M4.

“Pan gyflwynodd Plaid Cymru gais Rhyddid Gwybodaeth yr hydref diwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’n gwario £7m ar fwrw ymlaen â’r Llwybr Du yn 2015-16,” meddai llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Rhun ap Iorwerth.

“Ond dyma ni’n cael ar ddeall yn awr fod y gwir ffigwr bron yn £20m ac ymddengys eu bod yn cyflymu gyda’r paratoadau ar gyfer y ffordd hon er na all y gwaith adeiladu ddigwydd tan ar ôl etholiadau’r Cynulliad yn 2016– os o gwbl.”

‘Arswydo’

Mae’r gwrthbleidiau a nifer o Aelodau Cynulliad Llafur yn gwrthwynebu’r cynllun gwerth £1 biliwn.

Yn ôl Jenny Rathbone, AC Llafur Canol Caerdydd, mae’r rhan fwyaf o aelodau meinciau cefn y blaid yn erbyn y prosiect ac mae wedi galw ar i faniffesto etholiad 2016 y blaid gynnwys ymrwymiad i adolygu’r cynllun.

“Dwi wedi cael fy arswydo a’m syfrdanu bod hyd at £20 miliwn yn cael ei wario ar ffordd osgoi’r M4, a dwi’n gobeithio na fydd byth yn cael ei wireddu,” meddai wrth y BBC.

‘Pen yn y tywod’

Mae Aelod Cynulliad y Democratiaid, Eluned Parrott wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “roi ei phen yn y tywod”.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd trafnidiaeth y blaid: “Mae Llywodraeth Lafur Cymru’n rhoi ei phen yn y tywod tros yr M4.

“Mae’n esgus bod popeth yn iawn, ond rydyn ni i gyd yn gwybod nad dyna fel y mae hi.

“Mae gobeithion Llywodraeth Cymru o gael mwyafrif digon cryf i wthio’i chynlluniau drwodd yn denau, os o gwbl. Mae’n bryd i’r Llywodraeth dderbyn hyn.”

Ychwanegodd fod cynlluniau ei phlaid hithau ar gyfer ffordd osgoi’n “rhatach, yn llai tebygol o niweidio rhan helaeth o’n hamgylchfyd ac wedi’u hargymell yn academaidd”.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn parhau’n ymrwymedig i’r prosiect uchelgeisiol hwn, sy’n bwysig iawn i ffyniant economaidd y wlad ac sydd â chefnogaeth gref gan fusnesau yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Fel sy’n arferol wrth ystyried gwaith adeiladu prosiect o’r maint a math hwn, mae angen gwneud gwaith i asesu sut y gallai cael ei adeiladu, pa dir fyddai ei angen a pha fesurau amgylcheddol byddai’n cael eu darparu.

“Mae gwariant 2015/16 yn ddigon ar gyfer yr asesiadau hyn ac i benodi tîm datblygu prosiect i weithio ar y rhain. Mae hefyd yn cynnwys ymgynghori â’r cyhoedd, fel arddangosfeydd gwybodaeth gyhoeddus.”