Fe fyddai Plaid Cymru yn dileu’r byrddau iechyd ac yn sefydlu un corff ar gyfer holl ysbytai Cymru, pe bai mewn grym ar ôl etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Dyna ddywedodd  aelod cabinet Plaid Cymru ar Iechyd wrth amlinellu ei chynlluniau ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd heddiw.

Yn ôl Elin Jones, bydd Plaid Cymru yn “cynnig y newid mwyaf i’r modd y mae gofal yn cael ei gyflwyno ers dechrau’r Gwasanaeth Iechyd yn 1948.”

Fe fyddai hynny’n cynnwys addo gofal am ddim i bobol tros 65 oed.

Tynnu gwasanaethau at ei gilydd

Mae cynlluniau gan y blaid i gyflwyno “Gwasanaeth Iechyd Cymunedol” yng Nghymru a fydd yn “integreiddio” gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl a gwasanaethau cymdeithasol ar lefel leol.

Wrth annerch arweinwyr yn y sector mewn araith ym Mae Caerdydd heddiw, dywedodd Elin Jones  y bydd y newidiadau yn rhoi diwedd ar y “rhyfela am gyllid rhwng iechyd a gofal cymdeithasol”.

Fe fyddai’n cael gwared â’r “ffiniau gweinyddol sydd yn gwylltio’r staff, a lleihau oedi diangen i gleifion,” meddai.

‘Rhoi cleifion yn ôl wrth galon gwasanaethau’

Dywedodd Elin Jones bod y system iechyd a gofal cymdeithasol yn “rhy gymhleth a dryslyd i gleifion ar hyn o bryd.”

“Mae angen i ni wneud i’r system weithio’n well ar eu rhan (y cleifion) yn hytrach nac yn eu herbyn.

“Mae Plaid Cymru eisiau torri biwrocratiaeth ddiangen a chyflwyno GIG Cymunedol, fydd yn golygu bod gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl a gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu cyflwyno a’u hintegreiddio ar lefel leol.

“Bydd creu Bwrdd Ysbytai Cenedlaethol yn caniatáu cynllunio cenedlaethol effeithiol tra’n cadw pob gwasanaeth mewn ysbytai.”

‘Amddiffyn gwasanaethau’

Dywedodd Elin Jones hefyd y bydd Plaid Cymru yn ymrwymo i amddiffyn gwasanaethau “fydd yn achub bywydau o fewn cyrraedd awr i gleifion.”

“Rydym eisiau creu gwasanaeth diwnïad, sy’n trin ein pobl oedrannus a chleifion gyda gofal ac urddas, yn hytrach na’u trin fel cymeriadau i’w defnyddio i ryfela am gyllid.

“Bydd Plaid Cymru yn rhoi cleifion yn ôl wrth galon gwasanaethau, yn lle amddiffyn buddiannau tiriogaethol gwahanol gyrff.”

Bydd Plaid Cymru hefyd yn dileu taliadau gofal cymdeithasol i bobol hŷn ac i bobol â dementia, meddai.

Yn ystod dwy flynedd gynta’ Llywodraeth Plaid Cymru, mae Elin Jones wedi ymrwymo i gyflwyno gofal personol, dibreswyl am ddim i bobol hŷn ac yn dweud y byddai’n cael gwared â thaliadau gofal nyrsio a phreswyl i bobol â dementia o fewn pum mlynedd.

Ac mae’r blaid wedi addo y bydd pob tâl gofal cymdeithasol arall i’r henoed yn cael ei “ddileu yn llwyr” yn ystod ail dymor ei llywodraeth, pe bai’r blaid mewn grym.

Ar hyn o bryd, mae gofal y Gwasanaeth Iechyd am ddim ond mae gofal cymdeithasol am ddim yn amodol ar brawf modd.