Fe fydd ymgyrchwyr iaith yn galw ar y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, i waredu â’r system o addysgu Cymraeg fel pwnc ail iaith yn ystod cyfarfod yn y Cynulliad heddiw.

Fe fyddan nhw’n galw ar y Llywodraeth i ‘ddechrau o’r newydd’ gyda chynllun newydd o addysgu Cymraeg mewn ysgolion – yn hytrach na cheisio gwella’r system sydd eisoes yn bodoli o ddysgu Cymraeg Ail Iaith.

Daw hyn yn dilyn adroddiad ‘Un Iaith i Bawb’ a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a’i lunio gan yr Athro Sioned Davies yn 2013.

Roedd yr adroddiad hwnnw’n argymell y dylid disodli addysgu’r Gymraeg fel pwnc ail iaith, gan sefydlu continwwm dysgu’r Gymraeg a fyddai’n arwain at sicrhau addysgu mwy o’r cwricwlwm drwy’r Gymraeg i bob plentyn.

Mae’r mudiad iaith yn credu y gellir “disgwyl cyhoeddiad pwysig” gan y Llywodraeth yn ystod y mis hwn am eu penderfyniad ynglŷn â dyfodol addysg Gymraeg.

O ganlyniad, fe fyddan nhw’n rhoi pwysau ar y Llywodraeth heddiw i weithredu argymhellion yr adroddiad, gan waredu ag addysgu Cymraeg Ail Iaith – “model sydd wedi methu,” yn ôl y gymdeithas.

Ymateb y Gymdeithas

“Rydym yn ddiolchgar am y cyfle i geisio dwyn perswâd ar y Gweinidog i beidio â cheisio trwsio’r model aflwyddiannus o ddysgu’r Gymraeg fel ail iaith,” meddai Ffred Ffransis, aelod o grŵp ymgyrch addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Fyddai neb yn trio dysgu Saesneg fel ail iaith i ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg.”

“Byddwn ni’n galw ar y Gweinidog i ddod â’r pwnc arholiad Cymraeg fel ail iaith i ben, ac yn lle, sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn dysgu Cymraeg fel pwnc i bob disgybl gyda’r nod o gynyddu eu lefelau rhuglder fel gall pob un weithio a chyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.”

“Dylai’r cwricwlwm newydd hefyd sicrhau bod disgyblion yn derbyn o leiaf rhan o’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg fel eu bod yn dod yn rhugl yn yr iaith.”

Fe fydd Keith Davies AC, Cadeirydd Pwyllgor Trawsbleidiol y Gymraeg yn y Cynulliad, hefyd yn bresennol yn y cyfarfod gyda’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, a’r ddirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.