Huw Lewis
Mae’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, yn lansio cynllun newydd heddiw a fydd yn rhoi hwb i addysg Ieithoedd Tramor Modern mewn ysgolion.

Mae ‘Dyfodol Byd-eang’ yn rhan o gynllun 5 mlynedd gan Lywodraeth Cymru i wella’r modd y caiff ieithoedd tramor modern eu dysgu a’u haddysgu.

Mae wedi’i anelu at ddysgwyr ar lefel TGAU, Safon Uwch ac mewn prifysgolion – gan gyflwyno  ieithoedd tramor mewn ysgolion cynradd hefyd.

Creu ‘cenedl ddwyieithog a mwy’

Bwriad hyn, yn ôl y Gweinidog Addysg, yw creu “cenedl ddwyieithog a mwy,” gan roi sgiliau a gwybodaeth werthfawr i bobol ifanc ddod “yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd.”

Fe fydd y Gweinidog hefyd yn lansio Canolfan Ragoriaeth yn Ysgol Bryn Hafren yn y Barri hefyd.

Hon fydd yr ysgol arweiniol ar gyfer ieithoedd tramor modern i athrawon a disgyblion yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.

 ‘Byd busnes cynyddol fyd eang’

“Nod Dyfodol Byd-eang yw gwaredu â’r gamdybiaeth mai pwnc ar gyfer dysgwyr mwy abl a thalentog yw iaith dramor fodern,” meddai Huw Lewis, y Gweinidog Addysg.

Mae’n gynllun hirdymor, ac fe fydd yn cynnwys cyflwyno iaith dramor fodern ym Mlwyddyn 5 yn yr ysgol gynradd.

“Hoffem ddangos i’r byd fod Cymru’n wlad ddelfrydol ar gyfer busnes a hoffem sicrhau bod cwmnïau rhyngwladol yn teimlo’n hyderus ynghylch buddsoddi yma,” meddai’r Gweinidog.

“Un o’r prif resymau dros gyflwyno’r cwricwlwm newydd yw’r awydd i sicrhau bod gan ein pobol ifanc y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd. Golyga hyn ddatblygu’n genedl ddwyieithog a mwy.”

Fe groesawodd Karl Pfeiffer, o Sefydliad Goethe, gynlluniau’r Gweinidog hefyd, gan ddweud: “Mae gweithredu strategaeth ar gyfer ieithoedd i bawb yn gwbl allweddol ar gyfer sicrhau dyfodol llwyddiannus pobol ifanc mewn byd busnes cynyddol fyd eang.”

Fe ddywedodd hefyd fod hyn yn cyd-fynd â mentrau Sefydliad Goethe ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.

Ei nod sylfaenol nhw yw hyrwyddo gwybodaeth am yr iaith Almaeneg dramor “a meithrin cydweithredu diwylliannol ar lefel ryngwladol.”