Mae Oxfam Cymru heddiw wedi galw ar Gymru i ail-gartrefu 724 o ffoaduriaid o Syria, a hynny cyn diwedd 2016, er mwyn i’r wlad dderbyn ei “chyfran deg o bobl”.

Mae Oxfam wedi galw am 10% o’r ffoaduriaid sydd wedi’u cofrestru mewn gwledydd ar y ffin â Syria i gael eu hail-leoli mewn gwledydd cyfoethog erbyn diwedd 2016.

Yn ôl adroddiad yr elusen, Solidarity with Syria, sydd wedi cael ei chyhoeddi heddiw, mae angen i Lywodraeth Prydain ail-leoli 20,000 o ffoaduriaid yn ystod y flwyddyn nesaf, yn “seiliedig ar faint ei heconomi”.

Yn ôl cynlluniau David Cameron, 4,000 o ffoaduriaid fydd Prydain yn eu derbyn eleni, gan anelu at 20,000 dros y pum mlynedd nesaf.

Troi addewidion i realiti

 

“Mae Cymru mewn sefyllfa dda i fod yn genedl arloesol yn ei hymateb i Argyfwng Ffoaduriaid Syria. Rwy’n falch o ddweud bod pobl o Gymru wedi dangos parodrwydd i groesawu pobl o Syria sy’n ffoi o drais ofnadwy mewn gobaith am ddyfodol gwell,” meddai Carys Thomas, pennaeth Oxfam Cymru.

Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru yn “gwneud cynnydd” wrth ddatblygu tasglu a bwrdd gweithredu i “gydlynu ymateb cynhwysfawr.”

“Fodd bynnag, mae hyn yn parhau i fod yn storm ddyngarol go iawn, a than i addewidion droi’n realiti, byddan nhw’n aros yn addewidion. Tra ein bod ni’n deall bod angen datblygu a dilyn prosesau a gweithdrefnau, mae teuluoedd o Syria yn wynebu sefyllfa enbyd o drais a phrinder difrifol.”

“Mae’r ffigwr newydd hwn o 724 yn ein hatgoffa bod hyd yn oed gwlad fach fel Cymru yn gallu chwarae rhan fawr yn ystod argyfyngau, a’i bod yn barod i wneud hynny.”

Yn ôl Oxfam Cymru, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud ei bod yn barod i dderbyn hyd at 1,600 o ffoaduriaid.

“Rhaid i ni nawr sicrhau bod hyn yn digwydd cyn gynted â phosib,” meddai Carys Thomas wedyn.

Cymru’n “barod i groesawu”

Roedd Gweinidog Cymunedau a Thaclo Tlodi Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ddoe yn y Senedd bod pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn barod i chwarae ei rhan i ail-leoli teuluoedd o Syria yn eu cymunedau.

“Dyw polisi mewnfudo ddim wedi cael ei ddatganoli i Gymru, ond fel Llywodraeth a chenedl, rydym yn barod i groesawu a chefnogi’r ffoaduriaid sy’n dod i fyw yn ein cymunedau,” meddai’r Gweinidog.

“Dwi ddim am osod rhif heddiw o ran faint o ffoaduriaid dwi’n credu y dylwn ni fod yn croesawu. Yn hytrach dwi am roi amser i’r Tasglu i asesu’r capasiti sydd gennym ni’n iawn a byddwn wedyn yn galw ar Lywodraeth y DU i ail-leoli’r rhif mwyaf priodol cyn gynted â phosib.”