Y Kingsway yn Abertawe
Mae Cyngor Dinas Abertawe wedi cyhoeddi newidiadau i ffordd y Kingsway yng nghanol y ddinas yn dilyn cyfres o ddamweiniau difrifol.

Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno system unffordd ar yr heol brysur. Fe fydd y newidiadau yn cael eu rhoi ar waith ar 1 Tachwedd.

Bydd y Cyngor hefyd yn gosod arwyddion stryd a llinellau gwyn newydd ar ganol y ffordd yn yr wythnosau cyn cyflwyno’r system newydd.

Mae llwybr beicio oddi ar y ffordd yng nghanol y ddinas hefyd yn cael ei ystyried fel rhan o’r newidiadau.

Galw ar y Cyngor i weithredu ar frys

Roedd galwadau ar y Cyngor i weithredu ar frys yn dilyn cyfres o ddamweiniau difrifol ar y Kingsway.

Bu farw Daniel Foss, 37 oed, yn 2013 a chafodd plismones, y Sarjant Louise Lucas, 41, o Gaerdydd, ei lladd ar ôl cael ei tharo gan fws ym mis Mawrth eleni. Bu damwain arall ym mis Awst eleni ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu’n ddifrifol.

Bydd y traffig unffordd yn mynd ar hen lwybr metro y ddinas sydd ddim yn cael ei ddefnyddio rhagor.

“Bydd (y system newydd) yn golygu bod holl draffig ar y Kingsway yn mynd i un cyfeiriad – o’r dwyrain i’r gorllewin,” meddai’r Cynghorydd David Hopkins, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth.

“Bydd hyn yn golygu bod rhai gwasanaethau bws sydd fel arfer yn defnyddio’r llwybr metro i fynd tuag at Stryd Orchard yn y gorffennol yn cael eu dargyfeirio. Bydd gwasanaethau eraill, fel tacsis, hefyd yn defnyddio llwybrau gwahanol.”

Ychwanegodd: “Roedd beicwyr hefyd yn arfer gallu defnyddio’r llwybr metro ar gyfer teithiau yn y ddinas ac rydym nawr yn datblygu gwelliannau i’r llwybr beicio fel eu bod yn gallu parhau i gael y gorau o lwybrau sydd ar gael.”

Mae’r newidiadau i’r ffordd yn rhan o gyfres o ddatblygiadau sy’n cael eu harwain gan y Cyngor yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Mae’r Cyngor wedi prynu’r hen glwb nos, Oceana, sydd ar ffordd Kingsway a bydd yn cael ei ddymchwel dros yr wythnosau nesaf i adeiladu “hwb” er mwyn helpu pobl i gael gwaith.