Andrew R T Davies
Bydd etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai y flwyddyn nesaf yn “refferendwm ar ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru.”
Dyna fydd neges arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R T Davies, wrth iddo annerch cynhadledd y Ceidwadwyr heddiw ym Manceinion.
Yn ôl Andrew R T Davies, byddai’r Ceidwadwyr yn “diogelu cyllideb y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.”
Buddsoddiad
Mae disgwyl hefyd iddo ddweud y bydd mwy o bobl yn cael mynediad i’r GIG yng Nghymru a bydd mwy o arian yn cael ei fuddsoddi ynddo o dan lywodraeth Geidwadol yng Nghymru.
Bydd yn addo mwy o barafeddygon, triniaeth canser mwy hygyrch a mwy o lais i’r claf, yn ogystal â chyflwyno mesurau newydd i dorri amseroedd aros a gwella gwasanaethau gofal i gleifion.
“Ar ôl 17 mlynedd dan arweinyddiaeth y Blaid Lafur, mae cymunedau yng Nghymru yn haeddu dim llai,” bydd Andrew R T Davies yn dweud wrth ei gyd-aelodau heddiw.
“Bydd yr etholiad y flwyddyn nesaf yn refferendwm ar ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru”.
‘Dim croeso i Corbyn’
Mae disgwyl i Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb hefyd annerch y gynhadledd gan ddweud bod Cymru wedi “cael digon” o’r Blaid Lafur.
Fe fydd hefyd yn dweud nad oes croeso i wleidyddiaeth Jeremy Corbyn yng Nghymru a bod yr arweinydd Llafur yn ceisio “dychwelyd i wleidyddiaeth y gorffennol.”
“Ond mae pobl Cymru yn edrych tua’r dyfodol ac nid ydym am weld rhaniadau’r cenedlaethau blaenorol yn hawlio sylw yng ngwleidyddiaeth heddiw,” meddai.