Gallai pobl sy’n ysmygu neu sy’n ordew orfod ymuno â rhaglen i golli pwysau neu roi’r gorau i ysmygu cyn cael rhai llawdriniaethau cyffredin.

Daw’r cyhoeddiad gan Ddirprwy Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, wrth iddo rybuddio y bydd y Gwasanaeth Iechyd yn cael trafferth i gynnal ei wasanaethau orthopedig os na fydd newidiadau sylweddol.

Yn ôl y Llywodraeth, y gwasanaeth orthopedig, sy’n trin anafiadau a chlefydau yn yr esgyrn, cymalau a chyhyrau, yw un o’r gwasanaethau gofal mwyaf yng Nghymru.

Mae dros hanner miliwn o ymgynghoriadau trawma ac orthopedig i gleifion allanol yng Nghymru bob blwyddyn, a thua 40,000 o driniaethau dewisol cyffredin.

Bu hefyd cynnydd o 30% yn nifer y cleifion sy’n cael eu cyfeirio gan feddygon teulu at ymgynghorwyr orthopedig ers 2005, sy’n fwy na dwbl y cynnydd ym mhob arbenigedd arall gyda’i gilydd.

Mae’r rhesymau am hyn yn cynnwys poblogaeth sy’n heneiddio a lefelau cynyddol o ordewdra.

Yn sgil y cynnydd mawr yn y galw, mae Bwrdd Rhaglen Gofal wedi’i Gynllunio Cymru a gafodd ei sefydlu yn 2014, wedi llunio Cynllun Gweithredu Orthopedig Cenedlaethol sy’n gosod cyfres o argymhellion i “ddatblygu gwasanaethau orthopedig cynaliadwy drwy fesurau i reoli capasiti a’r galw.”

Gorfodi cleifion i golli pwysau neu stopio ‘smygu

 

Yn ôl y Llywodraeth, mae tystiolaeth yn dangos bod ysmygu yn effeithio ar ganlyniadau rhai triniaethau i’r droed a’r pigwrn a bod gan gleifion sy’n ysmygu neu sydd dros bwysau gyfraddau uwch o gymhlethdodau ar ôl y driniaeth ac yn aros fwy o amser yn yr ysbyty.

Dan y cynllun hwn felly, bydd pob claf sy’n ysmygu neu sydd â màs y corff o 35 neu’n uwch yn gorfod mynd ar raglen i roi’r gorau i ysmygu neu golli pwysau cyn cael llawdriniaeth.

Y byrddau iechyd fydd yn gyfrifol am drefnu a chynnal y rhaglenni hyn.

Atal afiechyd cyn iddo ddigwydd

“Mae’r cynllun hwn yn nodi beth sydd angen i Wasanaeth Iechyd Cymru ei wneud i ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy er mwyn i ni gynnig y gwasanaethau gorau posib i gleifion.

“Mae hefyd yn nodi’r hyn y gall pobl ei wneud eu hunain i reoli eu hiechyd – rydyn ni’n gwybod bod atal afiechyd rhag digwydd yn y lle cyntaf yn llawer gwell na thrin a gwella afiechyd sydd eisoes wedi digwydd,” meddai Vaughan Gething, Dirprwy Weinidog Iechyd Cymru.

Dywedodd Peter Lewis, arweinydd clinigol gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru, a Llawfeddyg Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan:

“Mae’r cynllun gweithredu newydd hwn yn casglu’r holl newidiadau angenrheidiol ar gyfer y gwasanaeth orthopedig ynghyd mewn un cynllun, ac yn cyflwyno’r camau gweithredu i’r byrddau iechyd drwy’r tair egwyddor sy’n ysgogi’r rhaglen –  gofal integredig, blaenoriaethu gwerth clinigol, ac anelu at fod o’r radd flaenaf.”