Mae mwy o gartrefi yng Nghymru heb oedolyn cyflogedig ynddo o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, yn ôl ffigurau newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Fe gyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol eu ffigurau heddiw, sy’n dangos bod dim un oedolyn mewn gwaith mewn bron i un ymhob pump o gartrefi Cymru.

Mae’r ganran yn sefyll ar 17.2% yng Nghymru – o’i gymharu â 15.8% ar gyfer gweddill y Deyrnas Unedig.

Mae ffigurau blynyddol adroddiad 2014 yn dangos fod y gyfradd o gartrefi heb oedolyn mewn gwaith ar ei uchaf yng Nghymru yng Nghaerffili gyda 23.9%.

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos mai Sir Fynwy sydd â’r gyfradd isaf yng Nghymru gyda 13.2%.

‘Darlun ehangach’

Er hyn, mae’r darlun ehangach ar draws y DU yn dangos cynnydd yn nifer y cartrefi sydd ag oedolyn mewn gwaith. Mae’r ffigwr wedi gostwng o 20.9% yn 1996 i 15.8%.

Fe awgrymodd ymchwilwyr y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod hynny’n rhannol oherwydd y cynnydd yn nifer y rhieni sengl sy’n gweithio.

Cynhaliwyd yr astudiaeth rhwng mis Ebrill a Mehefin eleni, gan ymchwilio i weld faint o bobol rhwng 16 a 64 oed sydd mewn gwaith.

Mae myfyrwyr sydd mewn addysg llawn amser, pobol sâl neu anabl, neu rhai sy’n edrych ar ôl y teulu neu’r cartref yn cael eu cynnwys fel oedolion di-waith yn yr astudiaeth hon.