Mae’r rheithwyr ar gyfer achos llys dwy nyrs o Ben-y-bont ar Ogwr sydd wedi’u cyhuddo o esgeuluso cleifion, wedi’u dewis y prynhawn yma.

Mae Claire Cahill a Jade Pugh, a arferai weithio yn Ysbyty Tywysoges Cymru, yn sefyll eu prawf yn Llys y Goron Caerdydd. Fe fydd Martin Rutherford QC yn amddiffyn y naill, a Kirsty Brimelow QC yn amddiffyn y llall.

Mae Claire Cahill, 42 oed, o Goetrehen, Pen-y-bont ar Ogwr yn wynebu chwe chyhuddiad o esgeuluso bwriadol rhwng Ebrill a Rhagfyr 2012; a Jade Pugh yn wynebu pedwar cyhuddiad o esgeuluso bwriadol rhwng Mehefin a Hydref yr un flwyddyn.

Mae’r ddwy yn gwadu’r cyhuddiadau, ac mae’r barnwr Tom Crowther wedi gohirio’r achos llys tan ddydd Gwener yr wythnos hon.

Mae disgwyl bryd hynny i Gwnsler yr Erlyniad, Christopher Clee QC, agor yr achos.