Mae’r Heddlu Trafinidaeth yn apelio am wybodaeth, wedi i wraig fod yn dyst i ymddygiad anweddus ar drên rhwng Bryste a Chaerdydd.

Mae llun teledu cylch-cyfyng wedi’i gyhoeddi o ddyn y mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag o mewn cysylltiad â’r digwyddiad ddydd Gwener, Mehefin 26.

“Fe sylwodd y dioddefwraig – dynes 21 oed – ar deithiwr oedd yn eistedd gyferbyn â hi yn ymddwyn mewn modd anweddus,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Fe ddechreuodd y dyn dynnu lluniau o’r ddioddefwraig wedyn gan ddefnyddio ei ffôn symudol, ac fe wnaeth hynny iddi deimlo’n ofnus ac yn annifyr.”