Bydd masnachwyr Llanelli yn sefydlu Ardal Gwella Busnes yng nghanol y dref i gyfuno eu hadnoddau er mwyn ‘gwella’ yr amgylchedd fasnachu leol a ‘chynyddu proffidioldeb’.

Fel rhan o gynllun Ymlaen Llanelli, bydd busnesau yn talu ardoll flynyddol o 1.25% y flwyddyn, gan greu cyfanswm o £584,000 i geisio cael fwy o fywiogrwydd i’r sector manwerthu a “chryfhau’r gymuned fusnes” drwy rwydweithio, hyfforddi a mentora pobl fusnes y dref.

Mae bwriad hefyd i farchnata tref Llanelli i ddenu ymwelwyr a thrigolion lleol yno, gwella diogelwch a glanweithdra a gwella mynediad i’r dref.

“Rhaid i’r stryd fawr addasu i ddenu’r siopwyr”

Daw £18,750 o gyllid Ymlaen Llanelli o Lywodraeth Cymru, fel rhan o becyn cymorth eang ar gyfer y dref. Mae hwn yn cynnwys grant gwerth £1 miliwn a £700,000 o gyllid benthyciadau i ddefnyddio adeiladau gwag yng nghanol y dref.

“Mae’r Ardal Gwella Busnes yn rhoi adnoddau cyson, ar y cyd i’r gymuned fusnes i allu creu canol tref fywiog unwaith eto,” meddai Jonathan Armstrong, Cadeirydd Ardal Gwella Busnes, ‘Ymlaen Llanelli’.

“Mae canol tref Llanelli, fel nifer o drefi yng Nghymru, wedi dioddef dirywiad ar y stryd fawr dros y blynyddoedd diwethaf. Ond, mae busnesau yn cydnabod pwysigrwydd newid ac addasu i’r galw gan siopwyr. Mae heddiw yn nodi carreg filltir bwysig ar gyfer y nod honno, gyda lansiad y rhaglen fydd gobeithio yn cael ei groesawu a’i gefnogi gan bob busnes yn Llanelli.”

Mae 10 cynnig ar gyfer Ardaloedd Gwella Busnes wedi cael eu cyflwyno’n Aberystwyth, Y Fenni, Pen-y-bont ar Ogwr, Caernarfon, Bangor, Castell-nedd, Ystadau Diwydiannol Pant a Merthyr, Pontypridd a Bae Colwyn hefyd.