Mae disgwyl i Aelod Seneddol newydd Plaid Cymru alw am ddatganoli pwerau adnoddau naturiol i Gymru yn Nhy’r Cyffredin yr wythnos nesa’, a hynny fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau fydd yn arwain at rali i gofio 50 mlynedd ers boddi pentre’ Capel Celyn.

Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd, fydd yn arwain y digwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan Blaid Cymru ac sy’n cynnwys dadl yn Neuadd Westminster ar Hydref 14.

“Ers boddi Capel Celyn, mae datblygiad sylweddol wedi bod yn ymwybyddiaeth genedlaethol Cymru, ond mae ei hadnoddau naturiol yn parhau yn nwylo gwlad arall gyfagos,” meddai.

“Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth gyflwyno Mesur Cymru, roi rheolaeth lawn o adnoddau naturiol Cymru i bobol Cymru.”

 Y cefndir 

Cafodd pentre’ Capel Celyn ei foddi er mwyn agor argae Llyn Celyn yn Nyffryn Tryweryn i roi dŵr i ddinas Lerpwl ym mis Hydref 1965 ac mae Liz Saville Roberts am i’r gyfraith newid er mwyn gwneud yr hyn a ddigwyddodd yn anghyfreithlon heddiw.

Er mai dim ond 1 o holl aelodau seneddol Cymru a bleidleisiodd o blaid y mesur, boddodd deuddeg o gartrefi a ffermydd a chollodd 48 o bobl eu cartrefi.

Yn 2005, fe ymddiheurodd Cyngor Dinas Lerpwl yn swyddogol am y penderfyniad.

Rali 

Bydd rali hefyd yn cael ei chynnal, 50 mlynedd ers yr agoriad swyddogol ar Argae Capel Celyn, ddydd Sadwrn, Hydref 17.

Yno bydd cyn aelodau seneddol Plaid Cymru, Dafydd Wigley ac Elfyn Llwyd, a hefyd Dafydd Iwan ac Emyr Llywelyn, oedd yn rhan o’r protestio chwyrn ar y pryd.

“Fyth eto dylai pobol Cymru gael eu gorfodi o’u cymunedau yn erbyn eu hewyllys, yn erbyn ewyllys eu gwlad ac ewyllys y rhai sy’n ein cynrychioli,” meddai Liz Saville Roberts wedyn.

Llywodraeth Cymru am weld mwy o bwerau

 

“Bydd datganoli pellach ar bwerau ynni i Gymru yn sicrhau bod penderfyniadau ar ddatblygiadau sy’n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Er bod galwadau cyson ar Lywodraeth y DU bod Cymru’n haeddu cydraddoldeb â’r Alban ar faterion o’r fath, hyd yma, dydyn ni heb gael yr ymrwymiad hwnnw.”