Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod gwraig wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A470 ddoe.

Roedd y wraig yn ei 70au ac yn gyd-deithwraig ar feic modur a fu mewn gwrthdrawiad gyda cherbyd Nissan Qashqai ger Betws-y-coed.

Mae’r dyn oedd yn gyrru’r beic modur yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am lygad dystion, ac yn awyddus iawn i ddod o hyd i yrrwr cerbyd gwyn a allai fod wedi gweld y ddamwain.