Joseph Smith
Cafodd balwnau eu rhyddhau ddydd Sadwrn yn ystod digwyddiad i gofio am fachgen pump oed gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd fis diwethaf.

Bu farw Joseph Smith o Laneirwg yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn dilyn y gwrthdrawiad ar Rodfa’r Gorllewin yn y brifddinas ar Fedi 13.

Roedd mwy na 400 o bobol yn y digwyddiad a gafodd ei gynnal ar y dyddiad y byddai Joseph wedi bod yn dathlu ei ben-blwydd yn chwech oed, a dyddiad pen-blwydd ei fam-gu, sy’n parhau yn yr ysbyty.

Bydd yr holl elw o’r digwyddiad yn mynd at gostau cynnal angladd Joseph.

Mae cynlluniau ar y gweill i gynnal noson i godi arian i’r teulu, ac mae £3,000 eisoes wedi’i roi i gronfa goffa Joseph.