Mae tri o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn llofruddiaeth dyn 45 oed o Drealaw ger Tonypandy.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Ffordd Brithweunydd, Trealaw am 7.20 y bore yma.

Mae’r tri – dwy ddynes, 45 a 23 oed, ac un dyn 23 oed – a gafodd eu harestio yn dal i fod yn y ddalfa.

Meddai’r Ditectif Uwcharolygydd Paul Hurley: “Dw i’n awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld neu glywed unrhyw beth amheus o gwmpas Ffordd Brithweunydd rhwng 8 bore Gwener 2 Hydref a 7.20 bore Sadwrn.

“Hoffwn sicrhau’r cyhoedd fod digwyddiadau fel hyn yn hynod o brin a bod ymchwiliad llawn ar y gweill i ddarganfod beth yn union a ddigwyddodd.

“Dw i’n pwyso ar unrhyw  un sydd â gwyboaeth i’n ffonio ni ar 101 neu’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1500365324.”