Chloe Ann Thomas (llun gan yr heddlu)
Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am help gan y cyhoedd i gael hyd i ferch 14 oed sydd ar goll o ardal Caernarfon.

Mae Chloe Ann Thomas wedi bod ar goll ers ddoe, 2 Hydref.

Maen nhw’n gofyn ar i unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu orsaf heddlu Caernarfon gan nodi cyfeirnod 14075.